Bydd gwestai, bwytai a’r sector hamdden yn cael cynghorion ar sut i greu croeso Cymreig cynnes gyda lansiad Canllaw Lletygarwch ar gyfer busnesau twristiaeth. Wedi’i gynhyrchu gan Lywodraeth Cynulliad Cymru, caiff y Canllaw Lletygarwch ei lansio ar y cyd gan y Gweinidog Materion Gwledig Elin Jones ac Alun Ffred Jones y Gweinidog Treftadaeth yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn y Bala ddydd Mawrth (4 Awst).