Gweinidog Materion Gwledig yn Lansio Cynllun i Warchod Hunaniaeth Cynnyrch Bwyd a Diod Cymru

Medrai cynnyrch bwyd a diod Cymru ymuno â rhengoedd Champagne a Parma Ham a chael eu henwau wedi eu gwarchod gan gyfraith Ewrop gyda lansiad cynllun gan Lywodraeth Cynulliad Cymru heddiw (21 Gorffennaf).

Lansiwyd cynllun newydd Enwau Bwyd wedi’u Hamddiffyn Ewrop gan Elin Jones, y Gweinidog dros Faterion Wledig, yn Sioe Frenhinol Cymru i gynyddu nifer y cynnyrch o Gymru sy’n gymwys am statws dynodiad arbennig.

Mae cynhyrchwyr sydd wedi sicrhau statws dynodiad arbennig yn derbyn amddiffyniad cyfreithiol ledled yr Undeb Ewropeaidd rhag efelychu. Maent hefyd yn mwynhau mwy o ymwybyddiaeth gan y diwydiant a defnyddwyr ar draws marchnadoedd cartref ac Ewrop, sy’n neilltuol bwysig ar adeg o gynnydd mewn gwerthfawrogiad defnyddwyr o bwysigrwydd bwydydd rhanbarthol ac arbenigol.

Mae 44 o gynnyrch yn y Deyrnas Unedig sydd â statws dynodiad arbennig yn cynnwys enwau fel Tatws Jersey Royal, Hufen Trwchus Cernyw a Phasteiod Porc Melton Mowbray.

Yr unig gynnyrch o Gymru sydd â’r dynodiad hwn ar hyn o bryd yw Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru sydd â statws Dynodiad Daearyddol Gwarchodedig (PGI).

Mae Cynllun Gweithredu Cyrchu Lleol Llywodraeth Cynulliad Cymru, a lansiwyd y llynedd, yn cynnwys camau gweithredu i gynyddu gwerthiant bwydydd a diodydd a gynhyrchir yn lleol.

Un o’r nodau allweddol yw annog cynhyrchwyr a phroseswyr i geisio cael statws Dynodiad Daearyddol Gwarchodedig (PGI), Enw Tarddiad Gwarchodedig  (PDO) Gwarant Arbenigedd Traddodiadol (TSG) a dynodiadau organig.

Dywedodd Elin Jones, y Gweinidog dros Faterion Gwledig:

“Ar hyn o bryd Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru yw’r unig gynnyrch sydd wedi’u dynodi.

“Bu manteision enfawr i’r sector yn nhermau adnabyddiaeth gan ddefnyddwyr a’r fasnach o fewn y Deyrnas Unedig a hefyd dramor.

“Anelwn gynyddu cyfran Cymru o ddau i ddeg dros y ddwy flynedd nesaf, a gwnawn hyn mewn ymgynghoriad gyda sector bwyd a diod Cymru.”

Cyflwynwyd cynllun Bwydydd Enwau wedi’u Diogelu Ewrop gan Lywodraeth Cynulliad Cymru i gefnogi hyd at saith cais yn ystod y ddwy flynedd nesaf gyda Llywodraeth Cynulliad Cymru yn dyrannu £75,000 o’i chyllidebau cymorth presennol at y cynllun.

Bydd y broses gais yn cynnwys set gadarn o feini prawf a weithredir i bob cais. Bydd Hybu Cig Cymru yn parhau i oruchwylio’r broses gais ar gyfer cynnyrch cig coch a chig mochyn, tra caiff ceisiadau eraill eu gweinyddu gan ADAS, yr ymgynghorwyr amgylcheddol a datblygu gwledig.

Caiff y cais ffurfiol ei wneud gan DEFRA fel Awdurdod y DU.

 

NODIADAU I’R GOLYGYDD

Enw Tarddiad Dynodedig (PDO)
Mae’r dynodiad hwn ar gael i gynnyrch a gaiff eu cynhyrchu, eu prosesu a’u paratoi o fewn ardal ddaearyddol benodol a gyda nodweddion a phriodoleddau y medrir eu priodoli i’r ardal honno.

Dynodiad Daearyddol Gwarchodedig (PGI)
Mae’r dynodiad hwn ar gael i gynnyrch a gaiff eu cynhyrchu neu eu prosesu neu eu paratoi o fewn ardal ddaearyddol benodol a gyda nodweddion a phriodoleddau y medrir eu priodoli i’r ardal honno.

Gwarant Arbenigrwydd Traddodiadol (TSG)
Mae’r dynodiad hwn ar gael i gynnyrch traddodiadol neu sydd ag enwau cynefin, ac sydd â nodweddion sy’n eu gwahaniaethu o gynnyrch eraill tebyg. Nid yw’n rhaid i’r nodweddion hyn gael eu priodoli i’r ardal ddaearyddol y caiff y cynnyrch ei gynhyrchu ynddi, nac ychwaith ei seilio’n llwyr ar ddatblygiadau technegol yn y dull cynhyrchu.

Enwau Bwyd wedi’u Hamddiffyn Ewrop

Mae mwy o wybodaeth am fwyd a diod Cymru ar gael ar : www.cymruygwirflas.co.uk.

Mae mwy o wybodaeth am Wobrau Bwyd a Diod Cymru y Gwir Flas ar gael ar: www.gwirflas.tv.
 

Martyn Williams
Swyddog y Wasg / Press Officer
Materion Gwledig / Rural Affairs
Ffon/ Tel: 029 20898 169
e-Bost/ e-Mail: Martyn.Williams@Wales.GSI.gov.uk / Martyn.Williams@Cymru.GSI.gov.uk

Gareth John
Swyddog y Wasg / Press Officer
Materion Gwledig / Rural Affairs
Ffôn / Tel: 029 2089 8490
e-Bost/ e-Mail: Gareth.John@Wales.GSI.gov.uk / Gareth.John@Cymru.GSI.gov.uk