Datganiadau Ebrill 2010


Caws Cymreig i 'Syrffio' y Sianel - 30 Ebrill 2010
Mae un o gawsiau mwyaf adnabyddus Cymru yn rhan o grwp elite o gawsiau Prydeinig fydd yn mynd i Ffrainc y penwythnos hwn (2 Mai) fel rhan o ddigwyddiad anarferol i godi arian.

Blas ar Gymru yn y Real Food Festival - 30 Ebrill 2010
Bydd ymwelwyr i’r Real Food Festival yn Earls Court yn Llundain yn medru prynu dewis eang o fwyd a diod o Gymru a blasu cynnyrch gwobrwyol yn stondin y  Gwir Flas yr wythnos nesaf (7-10 Mai).

Siopwyr Archfarchnad yn Mwynhau Bwydlen Gymreig - 26 Ebrill 2010
Gall cwsmeriaid archfarchnad fwynhau seigiau blasus a gwobrwyol a wneir gyda chig eidion Cymreig gyda lansiad bwydlen caffe Cymreig Asda heddiw (26 Ebrill).

Y Gweinidog Materion Gwledig yn Nodi Gweledigaeth i'r Diwydiant Garddwriaeth yng Nghymru - 22 Ebrill 2010
Mae'r Gweinidog dros Faterion Gwledig, Elin Jones, wedi lansio Cynllun Gweithredu Strategol Llywodraeth Cynulliad Cymru ar gyfer y Diwydiant Garddwriaeth yng Nghymru, sy'n nodi gweledigaeth o ddyfodol cynaliadwy sy'n gwneud lles i bobl ac amgylchedd Cymru.

Dathlu Wythnos Genedlaethol Llysieuwyr (24-30 Mai) gyda llysiau Cymreig! - 21 Ebrill 2010
Yn llysieuwr neu beidio, cofiwch fwynhau rhywbeth rhydd o gig a Chymreig yn ystod Wythnos Genedlaethol Llysieuwyr! Mae digonedd o gynnyrch gwobrwyol Cymru y Gwir Flas sy’n addas i lysieuwyr ddewis o’u plith, yn cynnwys Byrgyrs Bara Lawr, llenwr brechdanau Dawns Het Fecsicanaidd a gratin Cennin a Thatws.

Cynhyrchwyr Bwyd a Diod o Gymru’n Cael Blas o Asia - 12 Ebrill 2010
Y mis hwn (20-23 Ebrill), bydd cwmnïau bwyd a diod o Gymru sydd wedi ennill gwobrau am eu cynnyrch yn teithio i Singapôr ar gyfer sioe fwyd a lletygarwch fwyaf Asia, sef arddangosfa fasnach Food & Hotel Asia (FHA).

Cefnogaeth werth £3.3m yn helpu'r Diwydiant Godro yng Nghymru - 6 Ebrill 2010
Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn buddsoddi £3.3 miliwn yn niwydiant godro Cymru dros y tair blynedd nesaf, er mwyn helpu i wneud y gadwyn gyflenwi godro yn fwy effeithlon a chynaliadwy ac ychwanegu gwerth at y diwydiant.

Llaeth y Llan yn Dathlu Pen-blwydd Mawr - 1 Ebrill 2010
Mae Llaeth y Llan, cwmni iogwrt yng Nghymru, sydd wedi ennill sawl gwobr, yn Llanefydd ger Dinbych, yn dathlu ei ben-blwydd yn 25 oed heddiw.

Trefn newydd ar gyfer rheoli pysgodfeydd yn dod i rym yng Nghymru - 1 Ebrill 2010
Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn ysgwyddo'r holl gyfrifoldeb am reoli a gorfodi pysgodfeydd môr yng Nghymru, sy'n rhan o gynllun hirdymor i wella'r drefn ar gyfer rheoli pysgodfeydd a gorfodi morol yng Nghymru.