Er mwyn ei gwneud yn haws i bobl brynu pysgod sydd wedi'u dal yn lleol, mae rhaglen lwyddiannus wedi'i sefydlu trwy Lywodraeth Cynulliad Cymru i roi mwy o gyfleoedd busnes i gwmnïau pysgod a physgod cregyn Cymru.
Mae mwy o ddrysau wedi'u hagor i gwmnïau Celtic Crab Products, Menai Oysters, Pwllheli Seafoods, Welsh Seafoods Ltd, Selonda UK a Selwyn's Penclawdd Seafoods ers iddynt ymuno â'r Rhaglen Datblygu Busnes Cynaliadwy, sydd wedi'i dylunio a'i gweithredu gan Levercliff Associates ym mis Mai 2009.
Yn dilyn gwerthusiad annibynnol o'r rhaglen i nodi cyfleoedd i gynyddu gwerthiant sy'n dwyn elw trwy fanwerthwyr a gweithredwyr gwasanaethau bwyd mawr, mae'r canlyniadau'n dangos bod cwmnïau wedi cynyddu eu busnes a bod cysylltiadau amhrisiadwy wedi'u creu â phrynwyr a manwerthwyr.
Mae Wynfford James, Cyfarwyddwr Datblygu Bwyd, Pysgodfeydd a'r Farchnad Llywodraeth Cynulliad Cymru yn esbonio: "Un o'n blaenoriaethau yw ei gwneud yn haws i bobl brynu bwyd a diod sydd wedi'u cynhyrchu'n lleol yng Nghymru, fel rhan o ymrwymiad Cymru'n Un ac fel y nodir yng Nghynllun Gweithredu Cyrchu Lleol a Thwristiaeth Bwyd.
"Mae'r rhaglen nid yn unig wedi helpu i sicrhau busnes newydd, ond mae hefyd wedi codi ymwybyddiaeth manwerthwyr a chyfanwerthwyr o gwmnïau pysgod a physgod cregyn Cymru, a hynny i raddau helaeth. Mae hefyd yn gwneud y gadwyn gyflenwi'n fwy effeithlon.
"Mae prynu bwyd yn lleol yn cynnig nifer o fanteision amgylcheddol, megis lleihau milltiroedd bwyd, annog bwyta'n iach a rhoi hwb i'r economi leol."
Un o'r archfarchnadoedd sy'n hyrwyddo cynnyrch lleol yw Morrisons, a lansiodd bysgod Cymreig newydd ym mis Medi 2009.
Mae Morrisons wedi cynyddu'r ymwybyddiaeth o'r cynnyrch gymaint â phosibl drwy bosteri, baneri ac arwyddion mewn 22 o siopau ledled Cymru i dynnu sylw'r cwsmeriaid at gynnyrch lleol wrth iddynt ddod i mewn i'r siop ac wrth y cownter pysgod.
Mae'r rhaglen hefyd wedi arwain at sgiliau marchnata a thechnegol gwell ymhlith y cwmnïau sy'n cymryd rhan, a datblygu cynnyrch newydd, brandiau newydd a chyfleusterau prosesu newydd a fydd yn cyfrannu at gynaliadwyedd hirdymor diwydiant pysgota Cymru.
Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi cytuno i ehangu'r rhaglen i adeiladu ar y gwaith sylweddol sydd wedi'i wneud dros y naw mis diwethaf, a bydd yn para tan fis Ebrill 2011.
-DIWEDD-
Am fwy o wybodaeth, cysylltwch a Rheolwr PR Hyrwyddo Bwyd Llywodraeth Cynulliad Cymru Esther Eckley ar 03000 622174 neu esther.eckley@cymru.gsi.gov.uk
Nodiadau i Olygwyr
Y cwmnïau sydd yn cymryd rhan yn y flwyddyn gyntaf o’r Rhaglen Datblygu Busnes Cynaliadwy yw:
Celtic Crab Products (Haverfordwest)
Menai Oysters (Llanfairpwll)
Pwllheli Seafoods (Pwllheli)
Welsh Seafood (Milford Haven)
Selonda UK (Penmon)
Selwyn’s Penclawdd Seafoods (Llanmorlais)