Mae paratoadau’n mynd rhagddynt ym mhedwar ban byd i nodi Dydd Gŵyl Dewi (1 Mawrth) gyda bwyd a diod yn rhan ganolog o’r dathliadau.
Bydd y dathlu’n cychwyn ym Mrwsel ddydd Llun nesaf (22 Chwefror) pan fydd Carwyn Jones, Prif Weinidog Cymru, yn bresennol yn nerbyniad blynyddol Llywodraeth Cynulliad Cymru mewn lleoliad newydd, Concert Noble, lle bydd bwyd a diod o Gymru ar ganol y llwyfan.
Mae’r digwyddiad yn gyfle i hyrwyddo Cymru yng nghalon Ewrop a bydd y 400 o westeion yn cynnwys cynrychiolwyr o sefydliadau a’r gymuned fusnes Ewropeaidd yn ogystal â chyfeillion Cymru.
Caiff cig oen Cymreig a chig eidion Cymreig ar gyfer y derbyniad eu darparu gan Hybu Cig Cymru. Bydd Deiniol ap Dafydd yn cynrychioli’r diwydiant bwyd a diod yn rhinwedd ei swydd fel Pencampwr Gwir Flas.
Bydd gwesteion yn mwynhau bwydlen (manylion yn y Nodiadau i’r Golygydd islaw) yn dangos cynnyrch gwobrwyol y Gwir Flas ac yn cynnig cyfuniad o goginio traddodiadol a blaengar Cymreig.
Bydd y wledd bwffe - a gafodd ei chreu gan yr ymgynghorydd bwyd a chef Angela Gray - yn cynnwys sawl gorsaf fwyd, pob un yn rhoi sylw i gwmni a enillodd wobr y Gwir Flas: Bwyd Môr (Cyngor Sir Benfro ar gyfer yr Wythnos Bysgod; Cwmni Halen Môn Cyf); bwrdd Llysieuol (Really Welsh Company), Prif fwrdd (Hybu Cig Cymru), bwrdd Caws (Blas ar Fwyd) a bwrdd Pwdinau (Hufenfa De Arfon). Bydd y bar yn cynnig cynnyrch The Hurns Brewing Company a’r Cwmni Wisgi Cymreig.
Ymysg y danteithion fydd croustade bach draenog môr mwg gyda mwyar caprys, lolipops o gig oen Cymreig gyda chrwst perlysiau’r gwanwyn, Carpaccio o gig eidion Cymreig wedi’i lapio gyda remoulade, a Pot au Chocolat.
Caiff tlws Cwpan Ryder hefyd ei arddangos a gyda Ewrop yn unedig ar gyfer y gystadleuaeth ar gyfer 38ain Cwpan Ryder yng Nghyrchfan y Celtic Manor, rhwng 1-3 Hydref, mae’r cyfrif dyddiau’n wirioneddol wedi cychwyn.
Yn ystod y min nos bydd gwesteion yn cael cyfle i ddysgu mwy am sut mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn buddsoddi €3.8 biliwn dan raglenni Cronfeydd Strwythurol Ewrop 2007-2013 drwy amrywiaeth o brosiectau o fudd i bobl, busnesau a chymunedau ledled Cymru.
Bydd Llundeinwyr sy’n dymuno dathlu Dydd Gŵyl Dewi neu roi cynnig ar flas o Gymru yn medru prynu bwyd a diod gwobrwyol o Gymru yng nghanol y West End yn ail Farchnad Cynnyrch Cymreig y Gwir Flas (26 Chwefror) mewn lleoliad newydd a gweill yn Golden Square (ger Regent’s Street).
Rhwng 11am a 7pm bydd mwy na 20 o gwmnïau a enillodd wobrau Gwir Flas yn cynnig amrywiaeth o fwydydd a diodydd o gawsiau crefftwyr a chigoedd mwg a phates, i brownis siocled a ffrwythau ffres, llysiau a chig o siopau fferm lleol yng Nghymru.
Dywedodd Elin Jones, Gweinidog dros Faterion Gwledig Llywodraeth Cynulliad Cymru:
“Mae’r byd bwyd yng Nghymru yn ffynnu ac mae gennym ddewis gwych o gynnyrch ar gael. Mae marchnad Dydd Gŵyl Dewi yn gyfle gwych i ni arddangos rhai o’r cwmnïau bwyd a diod gorau yng Nghymru a rhoi llwyfan iddynt arddangos a gwerthu eu cynnyrch i farchnad wahanol.
“Bu’r farchnad yn llwyddiannus iawn y llynedd ac mae hyd yn oed fwy o gynhyrchwyr yn cymryd rhan eleni. Mae bwyd yn rhan hanfodol o’r cynnig twristiaeth yng Nghymru ac mae Cynllun Gweithredu Twristiaeth Bwyd Llywodraeth Cynulliad Cymru yn cynnwys cynigion i ddatblygu’r cysylltiadau rhwng bwyd a thwristiaeth a chynyddu eu cyfraniad i economi Cymru i’r eithaf.”
Ar draws yr Iwerydd, bydd Wythnos Cymru yn Efrog Newydd (1-7 Mawrth) unwaith eto yn wledd ddiwylliannol gydag amrywiaeth o ddigwyddiadau’n canolbwyntio ar gerddoriaeth a’r celfyddydau.
Mae bwyd a diod yn rhan bwysig o’r ffordd Gymreig o fyw a bydd nifer o ddigwyddiadau’n cynnwys lluniaeth Cymreig. Byddant yn cynnwys te prynhawn Cymreig - yn cynnwys bara brith a theisennau cri - a fydd ar y fwydlen o ddydd Mawrth i ddydd Sul yn y bwyty yn Llyfrgell ac Amgueddfa Morgan lle bydd llawysgrifau Dylan Thomas hefyd ar gael i’r cyhoedd eu gweld.
Bydd danteithion Cymreig ar y fwydlen hefyd yn nigwyddiad Gwobr Dylan Thomas yng Nghonsyliaeth Boston ar Ddydd Gŵyl Dewi. Bydd yr hors d’oeuvres yn cynnwys Eog Mwg a Bara Lawr Rhyg, Caws Pob, a Crostini Eidion gyda Saws Marchruddygl.
Yn nes gartref bydd y Really Welsh Company yn cynnal eu Gŵyl Fwyd flynyddol yng Nghaerdydd.
Bellach yn ei drydedd flwyddyn mae Gŵyl Really Welsh yn mynd o nerth i nerth ac yn dod â rhai o’r cynhyrchwyr bwyd a diod gorau yng Nghymru ynghyd yng nghanol Caerdydd i ddathlu Dydd Gŵyl Dewi
Cynhelir y digwyddiad tridiau y tu allan i Ganolfan Siopa’r Capitol yn Heol y Frenhines (26-28 Chwefror).
“Rydym wedi cael cefnogaeth wych eleni gan Lywodraeth Cynulliad Cymru, Tesco, Cyngor Caerdydd a Chanolfan Siopa’r Capital, ac ni fedrem gynnal y digwyddiad o gwbl hebddynt”, meddai Rhiannon Williams, Rheolwr Brand Really Welsh.
“Bydd y digwyddiad yn rhoi cyfle i bobl ddod a gweld a blasu rhai o’r bwydydd a’r diodydd gwych a gynhyrchir yma yng Nghymru a phrynu popeth y medrent fod ei angen ar gyfer Dydd Gŵyl Dewi.
Bydd cawl-garwyr yn anelu am Saundersfoot lle cynhelir 9fed Pencampwriaeth Coginio Cawl y Byd ... a Thu Hwnt’ blynyddol rhwng 12-3pm ar 27 Chwefror.
Bydd tua 400-500 o bobl yn cymryd rhan yn y daith o amgylch y pentref yn Sir Benfro yn blasu cawl a bwrw eu pleidlais dros y Pencampwr Cawl.
Mae’r bencampwriaeth yn rhan o Ŵyl Bwyd deuddydd Dewi Sant (27 a 28 Chwefror) a gynhelir ar lan yr harbwr ac sy’n cynnwys stondinau ac arddangosiadau coginio.
Mae Dydd Gŵyl Dewi yn aml yn amser pan fo cwmnïau bwyd a diod yn lansio cynnyrch newydd a bydd Puffin Produce Cyf, enillydd gwobr y Gwir Flas, yn lansio Estima, ei frand newydd o datws pobi yn storau Asda. Bydd cwmni arall a enillodd wobr Gwir Flas sef The Authentic Curry Company yn treialu ei gynnyrch cig eidion Cymreig a ffagots Cymreig ym mwytai Asda.
- DIWEDD -
Cyswllt
Sheila Coleman
01792 410994 / 07968 357474
sheila@colemanroberts.co.uk
Nodiadau i’r Golygydd
I GAEL MWY O WYBODAETH AM WYTHNOS CYMRU YN YR UNOL DALEITHIAU GWELER:
www.wales.com/usa
I GAEL MWY O WYBODAETH AM Y PENCAMPWRIAETHAU COGINIO CAWL CYSYLLTER Â:
Andrew Evans ffôn : 01834 812 304
E-bost : andrew.evans@stbridessparhotel.com
I GAEL MWY O WYBODAETH AM FWYD A DIOD O GYMRU GWELER:
www.cymruygwirflas.co.uk
I GAEL GWYBODAETH AM WOBRAU BWYD A DIOD CYMRU Y GWIR FLAS GWELER:
www.gwirflas.tv
I GAEL MWY O WYBODAETH AR ANGELA GREY GWELER:
www.angela.gray.co.uk
CYNHYRCHWYR YN CYMRYD RHAN YM MARCHNAD Y GWIR FLAS:
Bacheldre Watermill
Black Mountains Smokery Cyf
Blas ar Fwyd Cyf
Calon Wen - Menter Gydweithredol Llaeth Organig
Clams Hand Made Cakes
Gower Cottage Brownies
Siop Fferm Stad Penarlag
Hufenfa De Arfon
Hybu Cig Cymru
Kid Me Not
Pemberton's Victorian Chocolates
Pembrokeshire Fudge
Sanclêr Organic
Siop Fferm Glasfryn
The Blaenafon Cheddar Company
The Knobbly Carrot Food Company
The Patchwork Traditional Food Company Cyf
The Pudding Compartment
Tregroes Waffles
Tropical Forest
Welsh Farm Organics
CYNHYRCHWYR YN CYMRYD RHAN YM MARCHNAD REALLY WELSH:
Really Welsh Trading Company
Rachel’s Organic
The Pudding Compartment
Authentic Curry Company
Daioni
Gwynt y Ddraig Cider
Ashton Fishmongers
Samosa Co
The Chocolate House
Hendrewennol Fruit Farm
Ogmore Vale Bakery
Douglas Willis
Candy Fleece
BWYDLEN BRWSEL *GYDA CHYNNYRCH A ENILLODD WOBR Y GWIR FLAS
Diodydd a canapés
Gwin Pefriog a diod ysgawen (*Alderwicks)
Croustade bach draenog y môr mwg gyda mwyar caprys (*Derimon Smokery), Brochettes bach cig oen sbeislyd Cymreig gyda dip iogwrt organig (Hybu Cig Cymru (HCC), *Halen Môn), Conau bach o frites gyda halen môr a phupur du (*Puffin Produce, *Halen Môn), Carpaccio cig eidion Cymreig wedi’i lapio gyda remoulade (HCC), Choux caws pob caws a pherlys (Cheddar Hen Sir, Hufenfa De Arfon), Darnau veloute cennin gyda ffyn bara bach (*Puffin Produce, *Really Welsh Company)
Bwrdd Pysgod
Wystrys ar yr hanner cragen gyda dresin traddodiadol (*Halen Môn), tost Bara Lawr (*Selwyn’s Penclawdd Seafoods), Pilaf bwyd môr sbeislyd (*Celtic Crab Products, *Gill’s Plaice, *halen môr sbeislyd Halen Môn, *Menyn Cymreig Dragon Hufenfa De Arfon), Potiau bwyd môr gyda dresin bara lawr a sitrws (*Celtic Crab Products, *Selwyn’s Penclawdd Seafoods), Salad Cymysg
Bwrdd Llysieuol
Lletemau tatws sbeislyd (*Puffin Produce, Menyn Cymreig Dragon), Byrgyrs llysieuol gyda’r holl drimins – bara lawr, caws a cheirch (*Greta’s Wholefoodies, Cyri gwagbys, coriander a chnau coco (*Greta’s Wholefoodies), Salad Mân, Gercyn, Relish, Mayonnaise, Salad Ffa
Bwrdd Cig
Lolipos cig oen Cymreig gyda chrwst perlysiau gwanwyn (HCC a *Halen Môn), Cig Eidion Cymreig wedi’i goginio mewn Cwrw Braf (HCC, *The Hurns Brewing Company), selsig Porc a Chilli (*Edwards o Gonwy), Ham gwydrog gydag afalau rhost a saws seidr (*Rob Rattray Butchers, *Tŷ Bryn Cider), Stwnsh mwstard melys (*Puffin Produce, *Toloja Orchards), Blodfresych mewn saws caws, Llysiau Gwyrdd y Gwanwyn gyda Menyn, Moron Gwydrog
Pwdin
Pot au Chocolate (*Hufenfa De Arfon), Pot au Citron (*Hufenfa De Arfon), Teisen ddrisl lemon gyda hufen mêl grug a pistachio (*Blas ar Fwyd, *Tropical Forest Products Cyf)
Cawsiau (cyflenwyd gan Blas ar Fwyd)
Cheddar Cymreig Hen Iawn Llandyrnog (Hufenfa Llandyrnog), Cheddar Aeddfed Sir Benfro (*First Milk Cheese Company), Cheddar Organig Hafod (*Hafod Welsh Organic Cheddar), Gorwydd Caerffili(*Trethowan’s Dairy Cyf), Dragon’s Back (*Caws Mynydd Du), Perl Las (*Caws Cenarth), Teisennau Cri Bach a Bara Brith (*Blas ar Fwyd), Grawnwin a Seleri.
Diodydd
Dŵr Mwynol Llonydd a Phefriog (Tŷ Nant), Sudd Afal Tŷ Bryn (*Tŷ Bryn Cider), Diod Blodau Ysgawen (*Alderwicks), Cwrw Evan-Evans (*Evan-Evans Brewery), Cwrw Gaeaf Tomos Watkin (*Hurns), Brains Dark (*SA Brain), Wisgi Penderyn (Y Cwmni Wisgi Cymreig, Gin a Vodka Brecon (*Y Cwmni Wisgi Cymreig).