Gwledd ar gyfer y Pasg gan enillwyr Gwobrau Cymru y Gwir Flas

Mae gwledd o gynnyrch gwych ar gyfer y Pasg ar gael gan enillwyr gwobrau Cymru y Gwir Flas. Mae cig oen organig gorau Cymru ar gael ar gyfer eich cinio ar ddydd Sul y Pasg, gwledd o siocledi o ansawdd uchel o Gymru phicau ar y maen traddodiadol gwych ar gyfer amser te.


Stad Rhug

Wedi’i rostio gyda llysiau a rhosmari, mae coes cig oen yr union beth ar gyfer cinio blasus ar ddydd Sul y Pasg. Mae cig oen organig blasus Stad Rhug yn cael ei drin gan gigydd traddodiadol, medrir ei archebu ar-lein a’i ddosbarthu’n syth i’ch drws.

Wedi’i magu ar Stad Rhug ar fynyddoedd y Berwyn mae’r cig organig wedi ennill rhai o’r gwobrau pwysicaf yn cynnwys Cynnyrch Organig Gwir Flas y flwyddyn. Dechreuodd y fferm drosi i fod yn fferm organig yn 1998 ac mae bellach wedi’i hardystio’n llawn gan Gymdeithas y Pridd. Bu Fferm Rhug yn cynhyrchu cig organig o’r radd flaenaf am y saith mlynedd diwethaf mewn ffordd gynaliadwy a moesegol.

Pris Manwerthu a Argymhellir: Mae’r prisiau’n cychwyn am £12.50 fesul kg o gig oen Cymreig.

Gwerthwyr: Ar-lein yn  www.rhug.co.uk ac o nifer o siopau yn genedlaethol.

 
Picau ar y Maen Maddocks

Wedi’u greu o rysáit arbennig Gŵyr, mae picau ar y maen traddodiadol yn ddelfrydol ar gyfer amser te. Mae’r teisennau bach sbeislyd yn llawn ffrwythau ac wedi’u gwneud o ffrwythau’r winwydden fel cyrens a syltanas blasus. Mae blwch o 20 teisen y maint perffaith i fynd drwy’r blwch llythyrau; yn ddelfrydol fel anrheg gwahanol ar gyfer y Pasg..

Mae Maddocks Cakes from Wales yn ddiwydiant bwthyn a gaiff eu rhedeg o’u cartref gan y perchnogion Antony a Pat Maddocks yn Ne Orllewin Cymru. Mae ganddynt draddodiad hir a balch o goginio bwydydd Cymreig o’u cartrefi ym mhenrhyn Gŵyr, ac maent yn parhau â’r traddodiadau hyn gyda’u rysetiau a drosglwyddwyd o genhedlaeth i genhedlaeth, bob amser yn defnyddio’r cynnyrch lleol o’r safon uchaf.

Pris Manwerthu a Argymhellir: £11.99 (20 teisen) gyda dosbarthiad am ddim o fewn y Deyrnas Unedig

Gwerthwyr: Ar-lein yn  www.cakesfromwales.com

 
Pemberton’s Victorian Chocolates

Fyddai’r Pasg ddim yn Basg heb ddigon o siocled i’w fwynhau. Mae gan Pemberton’s Victorian Chocolates amrywiaeth o wyau Pasg bendigedig yn cynnwys mathau Siocled Trebl Moethus a Ffrwythau a Chnau. Wedi’u gwneud a’u pecynnu gyda llaw, mae’r casgliad Pasg yn defnyddio’r cynhwysion gorau oll a rysáit a drosglwyddwyd o genhedlaeth i genhedlaeth.

Yn rhy flasus i’w cuddio yn yr helfa wyau Pasg draddodiadol, mae wyau Pasg Pemberton’s yn rhodd arbennig iawn neu’n wledd foethus i’w mwynhau eich hun.

Pris Manwerthu a Argymhellir: O £4.75 am wy Pasg siocled 175g, ar gael mewn siocled llaeth, tywyll a gwyn.

Gwerthwyr: Ar-lein yn www.welshchocolatefarm.com ac o siop fferm Welsh Chocolate.

Mae’r holl gynhyrchwyr uchod wedi ennill gwobrau Bwyd a Diod Gwir Flas Cymru, a lansiwyd yn 2002 fel rhan o ymrwymiad Llywodraeth Cynulliad Cymru i ddatblygu’r sector bwyd a diod a chynyddu ymwybyddiaeth o frand bwyd ‘Cymru y Gwir Flas. Mae’r gwobrau yn tyfu mewn nerth a phoblogrwydd bob blwyddyn a chânt eu hystyried fel gwobrau ‘Oscar’ diwydiant bwyd Cymru.


DIWEDD

I gael mwy o wybodaeth, cysylltwch ag Esther Eckley, Rheolwr Cysylltiadau Cyhoeddus Hyrwyddo Bwyd Llywodraeth Cynulliad Cymru ar 03000 622174 neu esther.eckley@wales.gsi.gov.uk

I gael samplau neu luniau, cysylltwch â thîm y Gwir Flas, Holly Blake, Caroline Reincke, Georgie Hope a Sally Alexander yn Focus PR drwy e-bost: truetasteofwales@focuspr.co.uk, neu ar Ffôn: 020 7845 6600