Partneriaeth Cynghori ar Fwyd a Diod

Bydd y Bartneriaeth Cynghori ar Fwyd a Diod yn datblygu ac yn rhoi Strategaeth Bwyd a Diod o Gymru ar waith:

  • yn sicrhau cysylltiadau strategol effeithiol â gwahanol grwpiau sector a thraws-sector; 
  • yn rhoi cyngor i Lywodraeth Cynulliad Cymru.

Sefydlwyd y Bartneriaeth i gymryd lle'r Grŵp Cynghori ar Bartneriaeth Fwyd-Amaeth o 1 Hydref 2008.


23 Mehefin 2009

PENODI CADEIRYDD I’R BARTNERIAETH CYNGHORI AR FWYD A DIOD

Mae Elin Jones, y Gweinidog dros Faterion Gwledig, wedi penodi Dr Haydn E. Edwards i swydd Cadeirydd y Bartneriaeth Cynghori ar Fwyd a Diod.

Bydd y Bartneriaeth Cynghori ar Fwyd a Diod yn datblygu ac yn rhoi Strategaeth Bwyd a Diod o Gymru ar waith; yn sicrhau cysylltiadau strategol effeithiol â gwahanol grwpiau sector a thraws-sector; ac yn rhoi cyngor i Lywodraeth Cynulliad Cymru.

Sefydlwyd y Bartneriaeth i gymryd lle'r Grwp Cynghori ar Bartneriaeth Fwyd-Amaeth o 1 Hydref 2008. Bydd penodiad Dr Edwards yn dechrau ar 1 Gorffennaf 2009 am gyfnod o dair blynedd.

Meddai Elin Jones: “Mae gan Dr Edwards brofiad helaeth o weithio gyda diwydiant bwyd Cymru ar lefel academaidd ac ymarferol, ac fel Cyfarwyddwr y Ganolfan Technoleg Bwyd yng Ngholeg Menai, Llangefni.

“Rwy’n falch o benodi Dr Edwards i’r swydd bwysig hon ar adeg ffyniannus dros ben i ddiwydiant bwyd a diod Cymru gyda chefnogaeth gadarn gan Lywodraeth Cynulliad Cymru.”

Mae Dr Edwards wedi bod yn Brifathro ac yn Brif Weithredwr yng Ngholeg Menai ers 1994. Mae’n dal nifer o swyddi cyhoeddus ac mae ganddo wybodaeth a dealltwriaeth eang am sector bwyd a diod Cymru y gall eu defnyddio wrth gyflawni’r swydd. Mae Dr Edwards wedi cyfrannu at ddatblygu Canolfan Technoleg Bwyd Coleg Menai yn Llangefni yn y Gogledd, a fydd yn dathlu ei phen-blwydd yn ddeg oed eleni. Mae’r Ganolfan wedi bod yn gyfleuster allweddol i fusnesau bwyd sydd am ddatblygu a marchnata cynnyrch bwyd a diod newydd ac arloesol. Mae hefyd wedi bod yn allweddol o ran creu swyddi newydd yn y sector prosesu bwyd yng Nghymru.