Datganiadau Gorffennaf 2009

Gweinidog Materion Gwledig yn Lansio Cyfeiriadur o Gynhyrchwyr Bwyd a Diod Cymru

21 Gorffennaf 2009

Cafodd cyfeiriadur cynhyrchwyr bwyd a diod Cymru ei lansio yn Sioe Amaethyddol Frenhinol Cymru heddiw (dydd Mawrth, 21 Gorffennaf 2009).

Mae’r Cyfeiriadur 96 tudalen, a baratowyd gan Lywodraeth Cynulliad Cymru, yn cynnwys gwybodaeth am fwy na 500 o gynhyrchwyr bwyd a diod yn ogystal â gwybodaeth ar farchnadoedd ffermwyr, gwyliau bwyd a sefydliadau cymorth busnes.


Ymwelwyr yn Cael Blas o Gymru yn y Neuadd Fwyd yn y Sioe

10 Gorffennaf 2009

Mae gwledd yn aros rhai hoff o fwydydd a diodydd da pan ymwelant â’r Neuadd Fwyd yn ystod Sioe Amaethyddol Frenhinol Cymru (20-23 Gorffennaf).

Mae gan y Neuadd Fwyd, a reolir gan Lywodraeth Cynulliad Cymru, enw ardderchog am ansawdd ac amrywiaeth ac mae’n un o’r atyniadau hanfodol ar gyfer y rhai sy’n mynychu’r Sioe.