Bellach yn ei ail flwyddyn, mae Marchnad Cynnyrch Cymreig y Gwir Flas yn ôl, yn fwy a gwell nag erioed, gan fynd â chynnyrch ffres o glwydi fferm Cymru i blatiau pobl Llundain. Cynhelir y farchnad ddydd Gwener 26 Chwefror 2009 rhwng 11am a 7pm yn y Golden Square, Llundain, W1 (ger Regent’s Street).
Roedd Marchnad Cynnyrch Cymreig y Gwir Flas 2009 yn cynnwys 12 o gynhyrchwyr a bu’n llwyddiannus iawn. Heidiodd pobl sy’n byw ac yn gweithio i Lundain i’r digwyddiad undydd, gyda nifer y bobl yn St Christopher’s Place (lle cynhaliwyd y farchnad yn 2009) 48% yn fwy nag ar ddydd Gwener yr wythnos flaenorol a 63% yn uwch nag ar yr un dydd Gwener y flwyddyn flaenorol.
Mae marchnad eleni wedi symud i leoliad mwy i alluogi pobl i fedru blasu a phrynu cynnyrch gan ddwywaith gymaint o stondinwyr. Mae Golden Square yng nghanol West End Llundain a bydd hyd at 24 o gynhyrchwyr a enillodd wobrau Gwir Flas yn cynnig detholiad helaeth o fwydydd a diodydd o gawsiau a wnaed gan grefftwyr a chigoedd mwg a phate bendigedig, i frownis siocled blasus a ffrwythau, llysiau a chig ffres o siopau fferm lleol Cymru.
Beth bynnag sy’n dod â dŵr i’ch dannedd, gwarentir y bydd ymwelwyr i ddigwyddiad eleni yn canfod rhai o’r cynnyrch gorau sydd gan Gymru i’w cynnig mewn pryd ar gyfer Dydd Gŵyl Dewi ar 1 Mawrth 2010.
Dylai cwmnïau a enillodd gwobr Gwir Flas ac sydd â diddordeb mewn cymryd rhan yn y farchnad eleni gysylltu â Holly Blake yn Focus PR Ffôn: 020 7845 6600 neu e-bost truetasteofwales@focuspr.co.uk erbyn dydd Gwener 22 Chwefror. Dyrennir stondinau ar sail cyntaf i’r felin.
Nodiadau i’r Golygydd:
Mae’r cynhyrchwyr yn y farchnad eleni yn cynnwys: The Patchwork Traditional Food Company, Black Mountains Smokery, The Pudding Compartment, Gower Cottage Brownies, Romy Cuisine, Kid Me Not, Melin Ddŵr Bacheldre, Hufenfa De Arfon, Siop Ffarm Stad Penarlag, Pembrokeshire Fudge, Blaenafon Cheddar Company, a Greta’s Wholefoodies.
Sefydlwyd Gwobrau Cymru y Gwir Flas yn 2002 a chânt eu trefnu gan Lywodraeth Cynulliad Cymru. Mae’r cynllun gwobrau yn cydnabod ansawdd a rhagoriaeth ym mwydydd a diodydd Cymru. Mae Gwobrau Cymru y Gwir Flas yn tyfu mewn nerth a phoblogrwydd bob blwyddyn a chânt eu hystyried fel gwobrau ‘Oscar’ diwydiant bwyd Cymru. Mae gwybodaeth bellach am wobrau Cymru y Gwir Flas ar gael yn www.cymurygwirflas.co.uk/www.gwirflas.tv.
I gael gwybodaeth bellach neu ddelweddau ansawdd uchel, cysylltwch â Sheila Coleman ar 01792 410994 / 07968 357474 e-bost: sheila@colemanroberts.co.uk os gwelwch yn dda.