Mae gwaith ymchwil y mae Tesco wedi'i wneud yn dangos bod mwy o'i gwsmeriaid am brynu bwyd a diod sydd wedi'u cynhyrchu'n lleol a bod angen mwy o gymorth arnyn nhw i ddod o hyd iddyn nhw.
Er mwyn helpu ei gwsmeriaid i ddod o hyd i gynnyrch Cymreig o ansawdd, mae Tesco heddiw (26 Ionawr 2010) yn lansio arwyddion newydd mewn 29 o archfarchnadoedd a 15 o siopau Tesco Extra ledled Cymru.
Mae chwe chynhyrchydd brand Gwir Flas Llywodraeth Cynulliad Cymru, sydd wedi ennill sawl gwobr, wedi'u dewis i'w cynnwys ar yr arwyddion newydd a fydd yn cael eu rhoi ar silffoedd ym mhob rhan o'r wlad. Ymhlith y rhain mae Edwards o Gonwy, Bracty Brains, Cadog, First Milk, Tomos Watkin a Hufenfa De Arfon.
Meddai'r Gweinidog dros Faterion Gwledig, Elin Jones: "Un o flaenoriaethau Llywodraeth Cynulliad Cymru yw ei gwneud hi'n haws i bobl brynu bwyd a diod sydd wedi'u cynhyrchu yng Nghymru, a bydd yr arwyddion newydd hyn helpu'n fawr iawn i gyrraedd y nod hwnnw.
"Cynhyrchu bwyd a diod yn lleol yw un o'n blaenoriaethau yn Cymru’n Un a'r Cynllun Gweithredu Cyrchu Lleol. Un o nodau'r Cynllun yw helpu cynhyrchwyr bwyd a diod lleol yn gyffredinol ac yn eu hymdrechion i dorri drwodd i farchnadoedd lleol. Nodau eraill y Cynllun yw helpu Cymru i gynnal safonau uchel mewn diogelwch bwyd, datblygu diwylliannau bwyd lleol a lleihau 'taith bwyd'".
Bydd yr arwyddion, sydd o faint cardiau post, yn cynnwys peth gwybodaeth gefndirol a llun o bob cynhyrchydd ynghyd â logo'r Gwir Flas.
Esboniodd Mark Grant, Uwch-reolwr Prynu Tesco yng Nghymru: "Mae'r cynhyrchwyr hyn yn cynhyrchu cynhyrchion o safon hynod o uchel sy'n dwyn logo'r Gwir Flas y mae defnyddwyr a'r diwydiant bwyd a diod yn ei ystyried yn arwydd o ragoriaeth.
“Mae ein hymchwil ymhlith cwsmeriaid yn dangos bod pobl yn chwilio fwyfwy am gynnyrch rhanbarthol a lleol, ac rydyn ni'n falch iawn ein bod ni'n gallu cynnig ystod eang o gynhyrchion Cymreig lleol iddyn nhw."
Mae ystadegau'n dangos bod mwy o bobl a diddordeb mewn cynhyrchiad bwyd, y tarddle ac mewn prynu bwyd o Brydain nag erioed o’r blaen. Mae ymchwil yn dangos fod 84% o gwsmeriaid yn honni y bydden nhw'n prynu mwy o gynhyrchion lleol pe bydden nhw ar gael iddyn nhw mewn archfarchnadoedd a bod 32% o bobl yn gweld bwyd lleol fel ffordd o gymryd camau cadarnhaol i ddiogelu'r amgylchedd. Lansiodd Tesco fenter cyrchu leol y llynedd, ac mae ganddo 450 o gynhyrchion rhanbarthol gwahanol yn ei siopau yng Nghymru.
Am fwy o wybodaeth, cysylltwch a Rheolwr PR Hyrwyddo Bwyd Llywodraeth Cynulliad Cymru Esther Eckley ar 03000 622174 neu esther.eckley@cymru.gsi.gov.uk
Nodiadau i Olygwyr
Tesco Extra ac Uwchfarchnadoedd yn arddangos yr arwyddion newydd:
Uwchfarchnadoedd
Abergele
Aberdâr
Rhydaman
Y Bari
Penybont
Aberteifi
Caernarfon South Rd
Chepstow
Glyn Ebwy
Hollywell
Caergybi
Cyffwrdd Llandudno
Yr Wyddgrug
Maesteg
Aberdaugleddau
Neath Abbey
Casnewydd, Gwent
Pembroke Dock
Penarth
Pontardawe
Pontypool
Port Talbot East Bank
Porthmadog
Pontypridd
Ruthun
St Mellons
Marina Abertawe
Ystrad Mynach
Caerffili
Tesco Extra
Lleoliad
Bangor
Penybont
Caerfyrddin
Caerdydd
Caerdydd Pengam
Chester Broughton
Culverhouse Cross
Hwlffordd
Llanelli
Merthyr Tydfil Beacon
Casnewydd Gwent
Abertawe Fforestfach
Abertawe Llansamlet
Talbot Green
Wrecsam
Am fwy o wybodaeth cyffredinol am fwyd a diod o Gymru, ewch i: www.cymruygwirflas.co.uk
Am fwy o wybodaeth am y cynnyrch yn Tesco, cysylltwch â:
Edwards of Conwy
18 High St,
Conwy,
Gogledd Cymru,
LL32 8DE
Contact: Ieuan Edwards
Ffôn: 01492 592443 neu 01492 576800 Ffon ar y lon: 07803 498 326
Ebost: sales@welshsausages.co.uk a sales@edwardsofconwy.co.uk
Gwefan: www.welshsausages.co.uk a www.edwardsofconwy.co.uk
Tomos Watkin
The Kingsway
Fforestfach Industrial Estate
Kingsway
Abertawe
SA5 4DL
Ffôn: 01792 560020
Ebost: beer@hurns.co.uk
Gwefan: www.hurnsbeer.co.uk
Hufenfa De Arfon
Rhydygwystl
Pwllheli
Gwynedd
LL53 6SB
Ffôn: 01766 810251
Ebost: info@sccwales.co.uk
Gwefan: www.sccwales.co.uk
Cyswllt: Angharad Jones
Brains Brewery
Head Office
SA Brain & Co Ltd
The Cardiff Brewery
Crawshay Street
Caerdydd
CF10 1SP
Ffôn: 02920 402060
Ebost: sab-enquiries@sabrain.com
Cadog
Llandyrnog Creamery
Sir Ddinbych
LL16 4HH
Ffôn: 01824 790215
Cyswllt: Mr Jim Grieve, Rheolwr
First Milk Cheese Co Ltd
Merlins Bridge
Haverfordwest
Sir Benfro
SA61 1JN
Ffôn: 01437 762852
Ebost: michaelwalker@firstmilk.co.uk