Cwmni Arlwyo o Gymru yn Ychwanegu Blas Lleol i Wobrau Bwyd a Diod Cymru y Gwir Flas 2009/10
Bydd gan y fwydlen yng Ngwobrau Bwyd a Diod Cymru y Gwir Flas y mis nesaf flas lleol pendant gan roi lle canolog i’r Fenni a Sir Fynwy yn y dathliad blynyddol o arloesedd rhagoriaeth yn niwydiant bwyd a diod Cymru. Cynhelir seremoni wobrwyo eleni yn adeilad hanesyddol Neuadd y Farchnad yn y Fenni ar 19 Tachwedd, lle bydd 450 o westeion yn gwledda ar ddanteithion, y rhan fwyaf ohonynt wedi eu creu o gynnyrch lleol.
Cyri Cymreig ar Werth ar Gownteri Deli Asda
Gall cwsmeriaid cownter deli archfarchnad yn awr brynu cyri parod i’w fwyta gyda naws Cymreig yn dilyn cytundeb rhwng cwmni cynhyrchu bwydydd parod The Authentic Curry Company o Dde Cymru ac ASDA. Mae pedwar cyrri gan y cynhyrchydd gwobrwyol – Cyri Cig Eidion Du Cymreig, Tân y Ddraig, Sws y Ddraig a Tikka Massala Cyw Iâr – yn awr ar gael ar gownteri deli ASDA ledled Cymru.
Cwmnïau Bwyd a Diod yn Paratoi ar Gyfer Digwyddiad Poblogaidd Iawn yng Nghalendr Coginiol Cymru, Gwobrau Bwyd a Diod Cymru y Gwir Flas 2009/10
Mae cwmnïau bwyd a diod yn paratoi ar gyfer digwyddiad poblogaidd iawn yng nghalendr coginiol Cymru, Gwobrau Bwyd a Diod Cymru y Gwir Flas 2009/10. Y mis nesaf gwelir penllanw cystadleuaeth eleni, a ystyrir fel gwobrau ‘Oscar’ diwydiant bwyd Cymru. Ers sefydlu’r gystadleuaeth yn 2002, cafodd cynhyrchwyr bwyd a diod o bob rhan o Gymru eu hanrhydeddu am eu rhagoriaeth a’u blaengaredd.
Bwyta Allan ar y Fwydlen ar Gyfer Cynhyrchwyr Fwyd yn y Sioe Fwytai
Mae cynhyrchwyr bwyd a diod o Gymru yn paratoi i fynd i Lundain i ddangos eu nwyddau i ddiwydiant bwytai Prydain mewn ymgais i sicrhau mwy o fusnes. Bydd cynhyrchwyr o Gymru yn mynychu y Sioe Fwytai/The Restaurant Show yn Earl’s Court 2 yn Llundain rhwng 12-14 Hydref 2009, sy’n denu dros 350 o gyflenwyr bwyd, diod, celfi bwytai a llestri ac ati.
Castell Nedd yn paratoi ar Gyfer ei Gwyl Fwyd Gyntaf
Bydd Castell Nedd yn cynnal Gwyl Fwyd newyddaf Cymru, wrth i ddiddordeb defnyddwyr mewn bwydydd a diodydd lleol barhau i gynyddu.
Cwmnïau Cymru'n Ymddangos ar y Llwyfan Rhyngwladol yn ANUGA
Bydd cynhyrchwyr bwyd a diod o Gymru sy’n anelu i gynyddu eu cyfran o’r farchnad allforio yn teithio i’r Almaen y mis hwn ar gyfer un o ffeiriau masnach bwyd mwyaf y byd - Anuga (10-14 Hydref).