Arolwg Sector Cyhoeddus Cymru 2010 ar Brynu Bwyd
Mae Arolwg Sector Cyhoeddus Cymru 2010 ar Brynu Bwyd, a gafodd ei gomisiynu gan Lywodraeth Cynulliad Cymru, yn dangos mai cyfanswm gwerth y bwyd a brynodd y sector cyhoeddus yng Nghymru yn 2009 oedd £71.35m. O'r swm hwnnw, cyfanswm gwerth y bwyd o Gymru oedd £16.4m. Mae hyn yn dwf o 23% yn y gwariant ar fwyd o 2003-2009. Mewn cymhariaeth, cofnodwyd bod gwerth y bwyd sy'n dod o Gymru a gafodd ei brynu dros yr un cyfnod wedi codi 39%.
Arolwg Sector Cyhoeddus Cymru 2010 (PowerPoint, 599KB) - Nodwch mai thrwy Saesneg yn unig mae'r cynnwys yma ar gael ar hyn o bryd.
Bwyd ar y Rhwyd Gorffennaf 2010
Yn y cylchlythyr hwn, rydym yn casglu ynghyd dipyn o'r newyddion a'r gwaith ymchwil diweddaraf yn y sector bwyd a diod yng Nghymru.
Bwyd ar y Rhwyd Gorffennaf 2010 (PDF, 207KB)
Bwyd i Gymru, Bwyd o Gymru 2010-2020
Hoffai Llywodraeth Cynulliad Cymru glywed eich barn chi am strategaeth fwyd y maent yn gweithio arni i Gymru. Mae Bwyd i Gymru, Bwyd o Gymru yn mynegi gweledigaeth eang am le bwyd yng Nghymru, gyda'r nod o bennu cyfeiriad clir a fydd yn galluogi'r diwydiant bwyd yng Nghymru i dyfu mewn ffordd gynaliadwy a phroffidiol dros y deng mlynedd nesaf. Gobeithio y gallwch chi gyfrannu at yr ymgynghoriad hwn er mwyn sicrhau y bydd y strategaeth derfynol yn dangos y ffordd orau i ni symud ymlaen.
Bwyd i Gymru, Bwyd o Gymru (wefan Llywodraeth Cynulliad Cymru)
Strategaeth Garddwriaeth
Yn ddiweddar, cyhoeddodd Llywodraeth Cynulliad Cymru y Cynllun Gweithredu Strategol ar gyfer Diwydiant Garddwriaeth Cymru, a ddatblygwyd gan Grŵp Strategaeth Garddwriaeth y Bartneriaeth Bwyd-Amaeth. Mae'n nodi ffyrdd penodol y gall cadwyn gyflenwi'r sector garddwriaeth gydweithio i ymateb i'r heriau a fydd yn wynebu'r diwydiant yn y dyfodol, gan ganolbwyntio ar y themâu allweddol isod:
• hyfforddiant;
• datblygu cynaliadwy;
• gwella ansawdd cynhyrchion;
• rhannu gwybodaeth am ddatblygiadau yn y diwydiant;
• gwybodaeth am y farchnad; a
• meithrin gallu.
Cynllun Gweithredu Strategol ar gyfer Diwydiant Garddwriaeth (wefan Llywodraeth Cynulliad Cymru)
Bwyd ar y Rhwyd Ebrill 2010
Bwyd ar y Rhwyd Ebrill 2010 (Word, 164.5KB)
Bwyd ar y Rhwyd Ionawr 2010
Bwyd ar y Rhwyd Ionawr 2010 (Word, 177KB)
Sioeau Masnach a Defnyddwyr 2010
Mae Is-adran Datblygu Bwyd a'r Farchnad, Llywodraeth Cynulliad Cymru, yn eich gwahodd i gymryd rhan yn ei chyfres o arddangosfeydd ar gyfer masnach a defnyddwyr yn ystod 2010.
Sioeau Masach a Defnyddwyr 2010 (PDF, 301KB)
Cylchgrawn Gwir Flas 2009-10
Cylchgrawn Gwobrau Bwyd a Diod Cymru y Gwir Flas 2009/10 (PDF, 9.5MB)
Bwyd a Diod Cymru - Cyfeirlyfr Cynhyrchwyr a Chyfanwerthwyr
Y rhifyn hwn o’r Cyfeiriadur yw’r canllaw mwyaf cynhwysfawr a gynhyrchwyd erioed gan Lywodraeth y Cynulliad. Yn ogystal â chwmnïau bwyd a diod o bob rhan o Gymru, mae hefyd yn rhestru cyfanwerthwyr, siopau fferm, marchnadoedd ffermwyr a gwyliau bwyd ac mae’n hanfodol ar gyfer unrhyw un sydd â diddordeb mewn prynu neu gyflenwi bwyd a diod o Gymru.
Bwyd a Diod Cymru Cyfeirlyfr Cynhyrchwyr a Chyfanwerthwyr Rhifyn 6 (PDF, 5.4MB)
Lletygarwch
Canllaw Lletygarwch ar gyfer busnesau twristiaeth, sy'n sôn am fanteision masnachol defnyddio cynnyrch lleol o safon yn ogystal â chyngor ar ble i gael bwydydd a diodydd a sut i gynnwys y cynnyrch mewn bwydlenni.
Canllaw Lletygarwch (PDF, 1.5MB)
Cynllun Gweithredu Twristiaeth Bwyd
Bwriad y cynllun yw datblygu cysylltiadau rhwng bwyd a thwristiaeth i helpu i Gymru elwa ar fanteision economaidd darparu profiad bwyta unigryw, nodedig o ansawdd uchel.
Cynllun Gweithredu Twristiaeth Bwyd (PDF, 2.4MB)
Cynllun Gweithredu Cyrchu Lleol
Bydd y Cynllun Gweithredu Cyrchu Bwyd a Diod Lleol hwn yn cael ei gyflwyno fel par tneriaeth rhwng is-adrannau per thnasol allweddol o Lywodraeth Cynulliad Cymru, sectorau cynhyrchu a gweithgynhyrchu bwyd a diod, llywodraeth leol yng Nghymru, a’r sectorau manwer thu a wasanaeth bwyd.
Cynllun Gweithredu Cyrchu Lleol (PDF, 1.1MB)
Cynllun Gweithredu Strategol ar Gyfer Diwydiant Llaeth Cymru
Datblygwyd y Cynllun gan Lywodraeth Cynulliad Cymru mewn partneriaeth â'r Grwp Strategaeth Llaeth sy'n cynrychioli'r sector a'r Cyngor Datblygu Llaeth (MDC).
Cynllun Gweithredu Strategol ar gyfer Diwydiant Llaeth Cymru (PDF, 800KB)
Cylchgrawn Gwobrau Gwir Flas Bwyd a Diod Cymru 2008/09
Mae’r cyhoeddiad hwn yn cynnwys bwydydd a diodydd gorau Cymru. Llwyddodd yr holl gwmnïau y sonnir amdanynt i gyrraedd rownd derfynol Gwobrau Gwir Flas Bwyd a Diod Cymru eleni mewn cystadleuaeth frwd, gyda dros 900 o geisiadau gan fwy na 350 o gwmnïau. Yn ogystal â sôn am y cynhyrchwyr a'u cynnyrch, mae yma gyfeirlyfr bwyd a diod sy'n rhoi'r holl fanylion cysylltu y bydd arnoch eu hangen.
Cylchgrawn Gwobrau Gwir Flas Bwyd a Diod Cymru 2008/9 (PDF, 6.8MB).
Gwobrau Gwir Flas Bwyd a Diod Cymru 2008/09
Mae Gwobrau Gwir Flas Bwyd a Diod Cymru yn fwy nag erioed eleni, gyda dros 350 o gwmnïau yn ymgeisio â mwy na 900 o eitemau. Bu'r panel beirniaid wrthi am dri diwrnod yn pwyso a mesur cyn penderfynu ar y sawl sydd yn y rownd derfynol heno - y goreuon ym myd bwyd a diod Cymru.
We are sorry but this publication is only available in English at the current time. View the True Taste Wales Food & Drink Awards 2008/09 Brochure PDF (4.1MB) in English.
Arolwg o'r Bwyd a Brynir gan y Sector Cyhoeddus 2006
Gwaeth ymchwil i werthoedd y bwydydd a brynir gan y Sector Cyhoeddus yng Nghymru.
We are sorry but this publication is only available in English at the current time. View the Public Sector Food Purchasing Survey 2006 DOC (528KB) in English.
Bwyd o Gymru: Canllaw i Ddarparwyr Digwyddiadau a Chroesogarwch
Mewn pob math o lefydd bwyta yng Nghymru, mae cogyddion yn gwneud mwy a mwy o ddefnydd o'r cyfoeth o gynnyrch ardderchog sydd i'w gael yn y wlad. Mae cwsmeriaid yn gwerthfawrogi bwydydd a diodydd lleol wedi'u paratoi yn syml. Os ydych yn rhedeg gwesty, canolfan gynadledda, clwb neu gymdeithas, bydd y ddogfen hon yn rhoi nifer o syniadau modern a thraddodiadol i chi y gallwch eu haddasu ar gyfer eich bwydlen neu'ch achlysur arbennig.
We are sorry but this publication is only available in English at the current time. View the Welsh Food : a Guide for Event and Hospitality Providers PDF (3.32MB) in English.
Bwyd o Gymru: Canllaw ar Gyfer Gerthwyr Bwyd Brys
Paratowyd y ddogfen hon ar gyfer gwerthwyr bwydydd brys a hoffai ddefnyddio bwydydd Cymreig lleol o safon uchel. Gwybodaeth am y manteision masnachol defnyddio cynnyrch o Gymru yn eich busnes bwyd brys, pa mor hawdd yw cael gafael ar fwydydd lleol o Gymru, lle i fynd i brynu cynnyrch Cymreig, a sut i'w gyflwyno ar eich bwydlen.
We are sorry but this publication is only available in English at the current time. View the Guide for Fast Food Outlets PDF (2.6MB) in English.
The Welsh Cheese Book
Mae'r llyfr 60 tudalen, mewn lliw llawn, yn cynnwys casgliad o ryseitiau blasus gan y cogydd adnabyddus Angela Gray. Mae cariad Angela at gynnyrch Cymreig a'i dealltwriaeth ohono yn golygu y bydd pobl sy'n hoffi bwyd da wrth eu bodd â'r llyfr arbennig hwn.
Mae Angela'n dangos sut y gall caws Cymreig roi cymeriad i'r cwrs cyntaf, gwneud cinio canmoladwy a phwdin paradwysaidd. Cyhoeddir y llyfr gan Wasg Gomer. Ffotograffau trawiadol a dynnwyd gan Harry Williams.
Cynlluniau Gweithredu i Gymru:
Ail Gynllun Gweithredu Organig i Gymru 2005 - 2010 (Saesneg, PDF, 711KB)
Y Sector Bwyd Organig Cymreig Cynllun Gweithredu Strategol (Saesneg, PDF, 484KB)