Sioe Sushi Cymreig yn yr Expo

Bydd cynhyrchwyr bwyd a diod o Gymru yn edrych am gyfle i gynyddu eu henw da ynghyd â’u busnes yn yr Expo Bwyd a Diod yn Birmingham y mis hwn (21-24 Mawrth).

Bydd nifer o gwmnïau o Gymru yn arddangos dan faner Gwir Flas Llywodraeth Cynulliad Cymru ac am y tro cyntaf bydd belt gludo math sushi yn arddangos seigiau gan y cynhyrchwyr sy’n arddangos yn yr Expo.

Bydd arddangosiadau coginio hefyd ar stondin Llywodraeth y Cynulliad gyda Colin Gray a Nick Davies, chefs profiadol iawn sydd hefyd yn aelodau o Dîm Coginiol Cenedlaethol Cymru.

Esboniodd Wynfford James, Cyfarwyddwr Datblygu Bwyd, Pysgodfeydd a’r Farchnad Llywodraeth y Cynulliad, “Mae’r Expo yn un o sioeau masnach pwysicaf a mwyaf cyffrous Prydain ar gyfer cyrchu’r cynnyrch bwyd a diod a gwasanaethau mwyaf blaengar o bob rhan o’r byd.

“Mae’r digwyddiad hwn, a gynhelir bob dwy flynedd, yn denu prynwyr blaenllaw o’r diwydiannau gwasanaeth bwyd, manwerthu, cyfanwerthu a gweithgynhyrchu ac mae’n arddangosfa bwysig ar gyfer cynhyrchwyr Cymru.”

Y cwmnïau fydd yn cyhwfan y faner yn yr Expo Bwyd a Diod yw Clarks UK, Easibake Foods Group, Princes Gate Spring Water, PV France, Fruitapeel, Plas Farm Cyf, Vin Sullivan Foods, Otley Brewing Company, Halen Môn, Trioni Cyf a Chyngor Sir Gaerfyrddin (mae mwy o wybodaeth ar bob cwmni yn y Nodiadau i’r Golygydd).


- DIWEDD -

I gael mwy o wybodaeth ar yr Expo Bwyd a Diod, cysylltwch ag Esther Eckley, Rheolwr Cysylltiadau Cyhoeddus Hyrwyddo Bwyd Llywodraeth Cynulliad Cymru ar 03000 622174 neu esther.eckley@cymru.gsi.gov.uk

Nodiadau i’r Golygydd

Y cwmnïau o Gymru sy’n arddangos yn Expo Bwyd a Diod 2010 yw:


Trioni Cyf.

Mae Trioni Cyf. wedi ennill dwy wobr efydd y Gwir Flas dros y blynyddoedd. Byddant yn dangos eu brand newydd ar gyfer amrediad 250ml blaslaeth organig Daioni yn Expo eleni. Mae blaslaeth organig Daioni ar gael mewn blasau mefus, siocled a banana ac mewn dau faint, 125ml a 250ml. Bydd y cwmni o Sir Benfro yn arddangos ei laeth hanner-sgim oes hir Daioni sydd ar gael mewn pecynnau 12ml a 1 litr.

Trioni Cyf
Ffosyficer
Abercych
Boncath
Sir Benfro
SA37 0EU
Tel: 01239 682572
E-bost: abby@trioni.com
Gwefan: www.trioni.com
Cyswllt: Abby Solomon

 
Clarks UK Cyf

Bydd Clarks UK Cyf yn lansio dau gynnyrch newydd – taeniad siocled a blas cnau ‘No Nut’ a Fruit Sweet, melysydd ffrwythau hylif naturiol.

Mae gan felysydd naturiol newydd y cwmni o Gasnewydd gynhwysyn GI isel a 25% yn llai o galorïau na siwgr ac mae’n addas ar gyfer pobl ddiabetig a feganiaid. Mae ei daeniad ‘No Nut’ yn boblogaidd iawn gyda phlant a rhieni. Bydd y cwmni hefyd yn arddangos ei syrup masarn cyfun gwreiddiol a syrup 100% masarn pur.

Clarks UK Cyf.
Ffôn: 01633 293140
www.clarks-uk.co.uk


Easibake Foods Group

Mae Easibake, is-gwmni i Evron Foods, yn canolbwyntio ar gynhyrchu a marchnata cynnyrch bara rhew ac oeredig safon uchel ar gyfer y sectorau manwerthu, gwasanaeth bwyd, cyfanwerthu, prosesu bwyd a gwneud brechdanau.

Mae’r cwmni’n adnabyddus am ei amrediad cynhwysfawr o fara Ffrengig, wedi’u rhan-bobi a hefyd fathau dadmer a gweini, sydd wedi’u cynllunio fel sylfaen delfrydol ar gyfer llawer o lenwadau yn ogystal ag i gyd-fynd â phrydau bwyd. Mae wedi parhau i fod ar flaen y gad mewn cynhyrchu bara arbenigol, gan gyflwyno ystod eang o flasau a mathau newydd o fara, yn cynnwys bara “rhwygo a rhannu” a bara gwastad ynghyd ag amrywiaeth o fara dulliau Eidalaidd yn cynnwys olew’r olewydd safon uchel gyda pherlysiau ac amrywiaeth o fenyn gyda blas.

Easibake Foods Group
Rhodfa Pontyfelin
Pont-y-pwl
Gwent
NP4 0DQ
Ffôn: 0870 608 7799
E-bost: info@easibakefoods.co.uk
Gwefan: www.easibakefoods.co.uk


Princes Gate Spring Water Cyf

Bydd Princes Gate yn arddangos eu hamrediad llawn o ddwr llonydd, dwr pefriog a dwr â blas. Bydd y cwmni gwobrwyol ymwybodol o’r amgylchedd o Sir Benfro hefyd yn dangos ei amrediad gwydr soffistigedig newydd o ddwr llonydd a phefriog 330ml a 750ml.

Princes Gate Spring Water Cyf
Fferm New House
Prince’s Gate
Arberth
Sir Benfro
SA67 8JD
Ffôn: 01834 831225
E-bost: info@princesgatespringwater.com
Gwefan: www.princesgatespringwater.com
Cyswllt: Fran Roche neu Rachel Evans

 
PV France

Mae’r becws arddull Ffrengig, PV France, yn cynhyrchu amrediad ansawdd uchel o gynnyrch bara ffres, wedi’u rhan-bobi a’u rhewi a chynnyrch parod o ffatri newydd sbon yn Ynys Môn. Mae’r cwmni hefyd yn ymfalchïo yn ei hyblygrwydd i ddatblygu llawer o gynnyrch penodol ar gyfer cleientiaid. Yn yr Expo, bydd y cwmni yn dangos ei gynnyrch ac yn cynnig darnau i’w profi o’i gynnyrch yn cynnwys baguettes, parisien, ½ Baguette (gwyn, brown, aml-rawn), brechdan petit pain (gwyn, brown), petit pain (gwyn, brown), paninis a ciabattas. Bydd y cwmni hefyd yn dangos eu croissants, pain au chocolat, pain aux raisins, pestri cwstard fanlia, pestri afal, pestri mafon cochion, chwyrlïad sinamon a croissants bach.

PV France
Uned 9
Stad Ddiwydiannol Bryn Cefni
Llangefni
Ynys Môn
L77 7XA
stephane_thibault75@yahoo.co.uk
Ffôn: 01248 751691  
Symudol: 07789862360
Cyswllt: Stephane Thibault

 
Fruitapeel

Mae Fruitapeel, sy’n cynhyrchu sudd ffrwythau ffres a pasturedig a smwddis, yn cynnig cyfleoedd blasu a gwybodaeth am ei amrywiaeth cynnyrch o’i safle newydd yn Ne Cymru. Fruitapeel yw’r cynhyrchydd ail fwyaf o sawsiau ffrwythau a melysfwydydd yn y Deyrnas Unedig, a gyda chefnogaeth ardderchog gan Lywodraeth Cynulliad Cymru, sicrhaodd safle potelu Sunjuice Cyf yn Llantrisant yn ddiweddar. Maent yn targedu’r farchnad manwerthu a gwasanaeth bwyd gyda’u sudd ffres a pasturedig label eu hunain a brand a smwddis mewn amrywiaeth o feintiau a fformat poteli a phecynnau tetra.

Fruitapeel
Ty Astral
Parc Busnes Llantrisant
Llantrisant
CF72 8LF
emma.davies@fruitapeel.co.uk
01443 230350
Cyswllt: Emma Davies

 
Plas Farm Cyf

Bydd Plas Farm Cyf, cwmni llaethdy o Ynys Môn, yn arddangos ei amrediad o iogwrt rhew braster-isel. Gwneir iogwrt rhew y cwmni allan o laeth lleol, a’u cynhyrchu ar gyfer y marchnadoedd masnach a defnyddwyr. Mae iogwrt rhew Plas Farm ar gael mewn amrywiaeth o opsiynau: 4 litr naturiol neu gyda blas ar gyfer bariau sudd a smwddi, fel cymysgedd meddal i’w ddefnyddio mewn peiriannau ‘gweini meddal’, fel dognau iogwrt a gaiff eu cyfuno gyda ffrwythau rhew i wneud pwdin hyfryd, ac iogwrt Napoli/Llwy y cwmni - dewis blas isel mewn amrywiaeth o flasau, sy’n gwneud yn lle hufen iâ. Bydd manylion ar gael hefyd ar gynnyrch diweddaraf Plas Farm - 500ml iogwrt rhew ar gyfer gwneud diodydd smwddi perffaith adref.

Plas Farm Cyf
Ty Celtic
Gaerwen,
Ynys Môn
LL60 6HR
rhian@plas-farm.co.uk
www.plas-farm.co.uk
01248 422011 
Cyswllt: Rhian Williams

 
Vin Sullivan Food Cyf

Yn dathlu 50 mlynedd, bydd Vin Sullivan Food Cyf o Flaenafon - sy’n cyflenwi bwydydd arbenigol safon uchel i fwytai ledled Prydain - yn lansio catalog Jiwbili Aur newydd yn y sioe, yn cynnwys llawer o gynnyrch blaengar a syniadau i wella unrhyw fwydlen. Bydd cigoedd ffres, bwyd môr, cawsiau ffermdy, charcuterie a nwyddau sych arbenigol ar gael gyda hyrwyddiadau arbennig a chyfleoedd i flasu ar gael drwy gydol y sioe.

Vin Sullivan Foods Cyf
2 Stad Gilchrist Thomas
Blaenafon
Torfaen
NP4 9RL
Ffôn: 01495 792792
E-bost: sales@vin-sullivan.co.uk
Gwefan: www.vin-sulllivan.co.uk
Cyswllt: John Sullivan

 
Otley Brewing Company

Bydd cynnyrch newydd gael gan yr Otley Brewing Company o Bontypridd. Bydd y cwmni, a sefydlwyd yn 2005, yn ail-lansio cwrw aur Columbo 4% a chwrw hen ffasiwn 06 Porter 6.6%. Cânt eu harddangos ynghyd â rhai o’u hamrediad gwobrwyol o gwrw potel - 01,02, 08, Dark 0 a 0 Garden. Mae’r cwmni’n anelu i roi gwedd ffres a modern i’w cwrw a denu cwsmeriaid newydd i gwrw go iawn. Mae’r cwmni wedi ennill llu o wobrau, yn fwyaf diweddar wobrau’r Gwir Flas am 01 a 08 a’r Fedal Efydd ar gyfer 08 yn yr Wyl Gwrw Gaeaf Genedlaethol 2010.

Otley Brewing Company
Uned 42
Cilfynydd
Pontypridd
CF37 4NX
01443 480555
nick@otleybrewing.co.uk
www.otleybrewing.co.uk
Cyswllt: Nick Otley


Halen Môn

Mae halen môr Halen Môn yn sesnin hyblyg ar gyfer pob math o goginio. Caiff ei ddefnyddio gan wyth o brif fwytai’r byd yn cynnwys y ddau orau sef El Bulli yn Sbaen a The Fat Duck yn Lloegr. Wedi'i ddewis yn ddiweddar yn un o bump uchaf gynnyrch gastronomig y byd gan y Feria de Gastronomica uchel ei barch, dyma hoff halen môr chefs blaengar ym mhob rhan o’r byd. Mae Halen Môn ar gael mewn haenau pur, wedi’i gyfuno gyda sbeisys organig cynnes, ei dorri gyda fanila Tahitaidd, ei fygu dros dderw Cymreig a’i gymysgu gyda hadau seleri organig.

Halen Môn
Brynsiencyn
Llanfairpwll
Ynys Môn
LL61 6TQ
Cyswllt: Alison Lea-Wilson
Ffôn: +44 (0) 1248 430871
E-bost:Alison@seasalt.co.uk
Gwedfan:: www.seasalt.co.uk

 
Bydd hefyd nifer o gwmnïau bwyd a diod yn arddangos yn y Sioe dan fantell Cyngor Sir Gaerfyrddin, sef

 
Cwmni Caws Caerfyrddin
Caws Cenarth
Farm Fresh
Kid Me Not
Parsons Pickles
Pembertons Chocolate
San Cler
Tregroes Waffles
Govindas
Prima Foods


Cyngor Sir Gaerfyrddin
Datblygu Economaidd
Canolfan Busnes Gwledig
Nant y Ci
Sir Gaerfyrddin
SA33 5DR
Ffôn: 01267 242331
E-bost: BaDavies@carmarthenshire.gov.uk
Cyswllt: Barry Davies

 
Sheila Coleman
Coleman Roberts Communications
01792 410994 / 07968 357474
www.colemanroberts.co.uk