Gweinidog yn Cefnogi Busnesau Bach a Chanolig (BBaCHau)

Yfory (24 Mawrth), bydd y Gweinidog dros Faterion Gwledig yn dangos ei chefnogaeth i fusnesau bach a chanolig yn y digwyddiad ‘Cwrdd â Chynhyrchwyr’, a fydd yn cael ei gynnal yn Athrofa Prifysgol Cymru, Caerdydd (UWIC). 

Nod y diwrnod yw ysbrydoli busnesau twristiaeth a lletygarwch i ddarparu profiad bwyd hyd yn oed gwell i ymwelwyr drwy arddangos bwyd a diod gan gynhyrchwyr o bob cwr o Gymru. 

Cafodd y digwyddiad hwn ei drefnu gan Lywodraeth Cynulliad Cymru, Capital Region Tourism ac UWIC gyda’r bwriad o gyflwyno perchnogion, rheolwyr a phrynwyr i amrywiaeth o gyflenwyr bwyd lleol.  

Dywedodd Elin Jones, y Gweinidog dros Faterion Gwledig “Nod y digwyddiad hwn yw targedu sefydliadau yn y sector cyhoeddus, cynhyrchwyr bwyd a gweithredwyr twristiaeth lleol, gan ddarparu ystod o sesiynau addysgiadol a rhyngweithiol i godi ymwybyddiaeth am gynnyrch lleol a rhanbarthol, yn ogystal â chodi ymwybyddiaeth am sut y mae dod o hyd iddo a’i ddefnyddio, a sut mae’n cael ei ddosbarthu.

“Mae’r digwyddiad hwn yn rhan o’r Cynllun Gweithredu Cyrchu Lleol a’r Cynllun Gweithredu Strategol ar gyfer Twristiaeth Bwyd sy’n nodi’r cynigion ar gyfer datblygu’r cysylltiadau rhwng bwyd a thwristiaeth a chynyddu eu cyfraniad i economi Cymru. Gan fod y diwydiant bwyd yn dod yn fwy a mwy cystadleuol, mae nodweddion diwylliannol unigryw yn cael eu hystyried yn allweddol os yw cyrchfan am gael ei ystyried yn lle heb ei ail.”

Eglurodd Dirprwy Brif Weinidog, Ieuan Wyn Jones, "Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn benderfynol o wella'r cyfleoedd i gwmnïau o Gymru i ehangu eu gwybodaeth, cysylltiadau a gwerthiant o fewn y sector twristiaeth a lletygarwch.”

“Mae’r Gwasanaeth Datblygu Cyflenwyr a’r Is-adran Datblygu Pysgodfeydd, Bwyd a’r Farchnad yn rhannu eu hadnoddau ag arbenigwyr cydnabyddedig o’r sector i roi cyfle i Fusnesau Bach a Chanolig a chynhyrchwyr bwyd arbenigol gyfarfod a dangos eu cynnyrch i unigolion allweddol o’r diwydiant twristiaeth a lletygarwch, a hynny wyneb yn wyneb.”

Bydd rhai o enillwyr gwobrau bwyd a diod y Gwir Flas eleni yn dod i’r digwyddiad, ac yn eu plith bydd Greta’s Wholefoodies o’r Bont-faen, Cwmni Caws Cheddar Blaenafon, Lewis Pies a Selwyn’s Penclawdd Seafoods.

Ymhlith y prynwyr a fydd yno fydd Cyngor Sir Fynwy a Chyngor Sir Caerfyrddin, Canolfan Mileniwm Cymru, Croeso Cymru a Cadw yn ogystal â nifer o brifysgolion, bwytai, gwestai a thai llety. 


-DIWEDD-


I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch ag Esther Eckley, Rheolwr Cysylltiadau Cyhoeddus Hybu Bwyd Llywodraeth Cynulliad Cymru, ar 03000 622174 neu esther.eckley@cymru.gsi.gov.uk