Zorba yn Ennill Aur yng Ngwobrau The Grocer

Efallai nad yw eu henw ar wefusau pawb, ond bydd y rhan fwyaf o bobl wedi blasu dipiau a llenwad brechdannau a wnaed gan Zorba Delicacies Cyf o Dde Cymru.

Mae’r cwmni o Lynebwy newydd ennill aur yng Ngwobrau Bwyd a Diod Label eu Hunain The Grocer, fel un o brif gynhyrchwyr dipiau a llenwadau brechdan deli ffres, gan gyflenwi eu cynnyrch yn genedlaethol i fanwerthwyr blaenllaw, cyfanwerthwyr, gwasanaeth bwyd a busnes i fusnes.

Enillodd y cwmni air gyda’i Houmous arddull Morocco, un o’r 30 cynnyrch y mae’n eu darparu ar gyfer Asda.

“Rydym wrth ein bodd i ennill y wobr yma. Dyma’r tro cyntaf i ni cymryd rhan mewn cystadleuaeth fel hyn,” meddai Chris Nash, y rheolwr gyfarwyddwr.

“Rydym yn ymfalchïo yn ein safonau ansawdd uchel iawn ac mewn rhoi’r cyffyrddiad personol i’n cwsmeriaid. Rydym wedi sicrhau llwyddiant oherwydd ein gweithlu ardderchog o staff lleol, a’r cymorth a chefnogaeth ariannol wych a gawsom dros y blynyddoedd gan Lywodraeth Cynulliad Cymru a’r awdurdod lleol.

O’i uned gweithgynhyrchu o’r math diweddaraf, mae Zorba yn creu ystod eang o gynnyrch o rysetiau ethnig, Prydeinig a gwledydd y Môr Canol yn cynnwys dipiau oeredig, llenwyr deli a marinadau o bob rhan o’r byd. Mae’n darparu  cynnyrch pwrpasol i gwsmeriaid yn ogystal â’i amrediad ei hun o ddipiau oeredig brand Zorba a llenwadau brechdanau deli Vale Fine Foods.

Ffurfiwyd y cwmni fwy na 30 mlynedd yn ôl gan Robert Barbika a ymfudodd i Lundain o Wlad Groeg, ac a ddefnyddiodd rysetiau ei deulu i wneud Houmous, Taramasalata a Tzatziki a werthai i fwytai a delis lleol yn Llundain.

Cafodd y cwmni ei werthu ddeng mlynedd yn ddiweddarach ac yn fuan wedyn – gyda chefnogaeth gan y llywodraeth – symudodd i safle a adeiladwyd yn bwrpasol yng Nglynebwy, gan ei alluogi i ehangu ei ddewis cynnyrch.

Fe’i prynwyd gan The Entrepreneurial Food Group, cwmni Americanaidd, yn 2003 ac mae wedi tyfu’n gyflym gan gyflogi tua 250 o bobl erbyn hyn.

Ym mis Tachwedd 2009 derbyniodd y cwmni gymorth o Gronfa Buddsoddiad Sengl Llywodraeth Cynulliad Cymru i ehangu’r safle cynhyrchu sy’n awr yn cynnwys dwy uned arall, gan gynyddu’r ardal gynhyrchu i 100,00 tr. sg.

NODIADAU I’R GOLYGYDD

I gael mwy o wybodaeth am y cwmni a’i gynnyrch, cysylltwch â:

Chris Nash
Zorba Delicacies Cyf
Uned 12/13 Stad Ddiwydiannol Rasa
Rasa
Glynebwy
NO23 5SG
Ffôn:: 01495 210999
E-bost: chris@zorbafoods.co.uk
Gwefan: www.zorbafoods.co.uk