Cynhyrchwyr Bwyd a Diod o Gymru yn Paratoi i Fynd i Sbaen

Mae cynhyrchwyr bwyd a diod o Gymru yn paratoi i deithio i Sbaen ar gyfer y dyddiad diweddaraf ar y calendr arddangosfeydd bwyd rhyngwladol – Alimentaria (22-26 Mawrth). Mae Alimentaria, a gynhelir yn Fira de Barcelona, yn un o brif ddigwyddiadau’r byd ar gyfer y diwydiant bwyd a diod, a’r digwyddiad mwyaf ar gyfer y fasnach bwyd yn Sbaen.

Bydd pum cwmni o Gymru yn arddangos yn y digwyddiad gyda chymorth Busnes Rhyngwladol Cymru, ar ran Is-adran Datblygu Bwyd, Pysgodfeydd a’r Farchnad Llywodraeth Cynulliad Cymru. Mae Alimentaria yn sioe bwysig i gynhyrchwyr sy’n dymuno ehangu ar lwyfan y byd, a disgwylir y bydd 4,000 o weithgynhyrchwyr a dosbarthwyr bwyd a diod blaenllaw yn ymweld ynghyd â 150,000 o brynwyr, a chynrychiolwyr o 155 gwlad.

Yn ymddangos am y roi cyntaf yn Alimentaria fydd Fferm Organig Rhug o Sir Ddinbych. Bydd y cwmni, sydd eisoes yn allforio i Asia ac yn dymuno ehangu i farchnad Sbaen, yn dangos ei gigoedd a’i basteiod gwobrwyol.

Gwneir y pasteiod o’r darnau gorau o gig, eu coginio’n araf a’u gorchuddio mewn crwst byr menyn i gyd ac maent ar gael mewn blasau: Stêc, Madarch a Gwin Coch; Stêc a Charw a Chig Iâr a Madarch yn ogystal â Llysiau Rhost a Chaws Gafr. Mae Rhug yn gwerthu cig eidion, porc a chig oen organig lleol, ynghyd â dofednod a gêm organig ar ei stad yng Nghorwen i siopau fferm, siopau deli a bwytai ym mhob rhan o’r wlad.

Eisoes yn allforwyr profiadol i Sbaen ac Ynysoedd y Caneri, mae’r pobwyr gwobrwyol Lewis Pies Cyf yn edrych ymlaen at gwrdd â chwsmeriaid presennol a newydd yn Alimentaria. Bydd y cwmni teuluol hefyd yn dangos ei gynnyrch craidd o basteiod a phastenni a hefyd yn lansio tri chynnyrch newydd, a fydd hefyd ar gael ym Mhrydain. Wedi’u hanelu’n benodol at y farchnad Sbaenaidd, bydd Tafell Cyw Iâr a Selsig Chorizo newydd y cwmni eu datgelu ynghyd â’i ‘Brunchie’ newydd (Tafell Caws, Ffa a Selsig) a Rhôl Selsig Cumberland a Sesnin.

Bydd Real Crisps, a ail-lansiodd y brand yn ddiweddar gyda phecyn newydd lliwgar a chyfoes, yn ogystal â blasau a maint pecynnau newydd, yn mynd â dewis eang o’i greision a goginir â llaw  i arddangosfa Alimentaria 2010. Dechreuodd y cwmni, sy’n rhan o grŵp Tayto, wneud creision a goginir â llaw yn ei safle yn Ne Cymru yn 1997.

Gan ddefnyddio’r tatws gorau ac yn cyfuno blasau clasurol a blaengar, mae creision a sglodion y cwmni ar gael mewn pecynnau 35g, 50g a 150g. Mae’r blasau’n amrywio o ffefrynnau traddodiadol megis Halen Môr a Phupur Du a Halen Môr a Finegr Brag, a blasau cyfoes yn cynnwys Ham a Mwstard Seisnig, Ychen Rhost, Pupur Jalapeno, Caws Cryf a Nionyn, Chilli Melys a Halen Môr. Mae Sbeis Dwyreiniol, Pepperoni, Caws Cryf a Shibwns a Halen Môr, a Halen Môr a Finegr Seidr ar gael yn yr amrediad Real Chip.

Bydd Trioni Cyf yn dangos ei amrediad o flaslaeth organig Daioni. Mae blaslaeth organig Daioni ar gael mewn blasau mefus, siocled a banana ac ar gael mewn dau faint, 125ml a 250ml. Bydd y cwmni o Sir Benfro hefyd yn dangos ei laeth hanner-sgim oes hir Daioni sydd ar gael mewn pecynnau 125ml ac 1 litr.

Ar gael yn eang ar draws Prydain, allforir Daioni i nifer o wledydd yn cynnwys Gwlad Groeg, Malta, Cyprus, Awstralia, yr Iseldiroedd, Sbaen, Gwlad Pwyl a Singapore a bydd ar gael yn fuan yn Hong Kong a Ffrainc.

Bydd allforwyr cig o Gymru yn mynd gyda Hybu Cig Cymru i hyrwyddo cig oen a chig eidion ansawdd uchel o Gymru yn Alimentaria. Mae HCC yn ystyried Sbaen fel marchnad bwysig ar gyfer cynnyrch, a’i nod yn y sioe fydd creu cyfleoedd masnachu newydd, gan sicrhau gwell enillion i gynhyrchwyr a phroseswyr nôl adref yng Nghymru. Bu HCC yn llwyddiannus wrth helpu i gyflenwi Cig Oen Cymreig a Chig Eidion Cymreig i siopau, bwytai a gwestai yn Sbaen, a bydd y stondin fasnach yn dangos rhagoriaeth ein cynnyrch i chefs a phrynwyr.

Cynhelir sesiynau blasu, a gynhelir gan Ymgynghoriaeth Fwyd Howel, ar stondin Cymru gyda chynnyrch o gwmnïau sy’n arddangos yn Alimentaria ynghyd â nifer o enillwyr eraill gwobrau Gwir Flas yn cynnwys bergavenny Fine Foods, Halen Môn, Ty Nant, The Hurns Brewing Company, Llanllyr, a’r Cwmni Wisgi Cymreig.

I gael gwybodaeth bellach ar Alimentaria, cysylltwch ag Esther Eckley,  Rheolwr Cysylltiadau Cyhoeddus Hyrwyddo Bwyd Llywodraeth Cynulliad Cymru ar 3000 622174 neu esther.eckley@cymru.gsi.gov.uk


NODIADAU I’R GOLYGYDD

Mae gwybodaeth bellach am fwyd a diod Cymru ar gael ar www.cymruygwirflas.co.uk.

I gael mwy o fanylion am y cwmnïau sy’n arddangos yn Alimentaria cysylltwch â:

Rhug Organic Farm Cyf
Swyddfa Stad Rhug
Corwen
Sir Ddinbych
LL21 0EH
Cyswllt: Philip Hughes
Ffôn: 01490 413000 ext 224
E-bost: philiphughes@rhug.co.uk
Gwefan: www.rhug.co.uk

Lewis Pies Limited
Unedau 3-6 Heol Abergelly
Parc Busnes Gorllewin Abertawe
Fforestfach
Abertawe
SA5 4DY
Cyswllt: David Phillips
Ffôn: 01792 579908
Gwefan: www.lewispies.co.uk
 
Trioni Cyf
Ffosyficer
Abercych
Boncath
Pembs
SA37 OEU
Cyswllt: Abby Solomon
Ffôn: 01239 682791 / 07967 581492
E-bost: abby@trioni.com
Gwefan: www.trioni.com

Hybu Cig Cymru
Tŷ Rheidol
Parc Merlin
Aberystwyth
Ceredigion
SY23 3FF
Cyswllt: Alan Morris
Ffôn: 01970 625050
E-bost: amorris@hccmpw.org.uk
Gwefan: www.hccmpw.org.uk


Sheila Coleman
Partner
Coleman Roberts Communications
01792 410994 / 07968 357474
www.colemanroberts.co.uk