Mae cynhyrchwyr bwyd a diod Cymru yn paratoi i fynd i Dubai a’r arddangosfa fasnach fwyaf yn y Dwyrain Canol, Gulfood 2010.
Gulfood, a gynhelir yng Nghanolfan Gonfensiwn ac Arddangosfa Ryngwladol Dubai (21-24 Chwefror 2010) yw’r prif lwyfan busnes ar gyfer bwyd, diod, gwasanaeth bwyd ac offer lletygarwch ar gyfer y Dwyrain Canol, Gogledd Affrica ac Is-gyfandir India.
Bydd pum cwmni o Gymru yn arddangos yn y digwyddiad gyda Cymorth Busnes rhyngwladol Cymru ar ran Isadran Datblygu Bwyd, Pysgodfeydd a’r Farchnad Llywodraeth Cynulliad Cymru.
Mae’r cwmnïau o Gymru’n cynnwys The Abergavenny Fine Food Cyf sy’n arddangos yn Gulfood am y tro cyntaf. Yn ogystal â’r cynnyrch a fanwerthir ar hyn o bryd yn yr UAE, bydd Abergavenny hefyd yn dangos ei amrediad newydd o gynnyrch gwasanaeth bwyd rhew a gynlluniwyd i weddu i bob fformat yn cynnwys cadwyni QSR, tafarndai, bwytai a gwestai safon uchaf.
Gan ganolbwyntio’n bennaf ar y farchnad bwyd bysedd a blasfwydydd, mae Abergavenny yn cynhyrchu ystod eang o gynnyrch craidd yn cynnwys puprau Jalapeño, ffyn Mozzarella, a chawsiau Camembert bach mewn haenen. Yn ogystal â’r clasuron hyn, mae’r cynnyrch newydd a ddangosir yn Gulfood yn cynnwys bagiau arian crwst Ffilo Cheddar Aeddfed a Chig Moch, crwyn tatws bach wedi’u llenwi, pyffiau Eog Mwg a chaws hufen a rapiau Sbigoglys a Ricotta.
Bydd Cwmni Halen Môn, enillydd y wobr gyntaf am Lwyddiant Allforio gwobrau Cymru Gwir Flas Bwyd a Diod 2009/10, yn dangos ei amrediad o gynnyrch halen môr. Mae’r halen ar gael mewn haenau pur, wedi’u cyfuno gyda sbeisys organig cynnes, ei dorri gyda fanila Tahitaidd, ei fygu dros dderw Cymreig a’i gymysgu gyda hadau seleri organig.
Medrir defnyddio’r halen môr, sy’n boblogaidd ymysg chefs ym mhob rhan o’r byd, i orffen seigiau melys yn ogystal â sawrus a medrir ei ychwanegu at y bwrdd i chwaeth bersonol. Maent yn cael eu defnyddio’n gynyddol mewn cyfuniadau blaengar - Halen Môn fanila mewn margarita melon dŵr ac mae Halen Môn seleri yn rhan hanfodol o goctels a wneir gyda saws tomato ac wrth gwrs mae Halen Môn pur yn cyd-fynd yn berffaith gyda tequila.
Mae gwneuthurwyr siocled yn cynnwys Rococo organig ym Mhrydain a Fran’s Chocolates o Seattle yn yr Unol Daleithiau yn defnyddio Halen Môn i ychwanegu at flas eu cynnyrch newydd. Mae’r paciau’n amrywio o 25kg i ddognau sengl 3g, gyda phopeth cydrhwng. Mae’r haenau halen môr ar gael mewn gwahanol raddau o fân iawn - perffaith ar gyfer sesno creision, bisgedi a blasau - i haenau garnais rhyfeddol o hardd a elwir yn Ddiemwntau’r Môr.
Mae Real Crisps, a ail-lansiodd y brand yn ddiweddar gyda phecyn newydd lliwgar a chyfoes, yn ogystal â blasau newydd a meintiau pecyn, yn mynd ag ystod eang o’i greision i Gulfood. Dechreuodd y cwmni, sy’n rhan o grŵp Tayto, wneud creision dilys a goginir â llaw yn ei safle yn Ne Cymru yn 1997.
Gan ddefnyddio’r tatws gorau a chyno blasau clasurol a blaengar, mae creision y cwmni ar gael mewn pecynnau 35g, 50g a 150g. Mae’r blasau’n amrywio o ffefrynnau traddodiadol megis Halen Môr a Phupur Du a Halen Môr a Finegr Brag, blasau cyfoes yn cynnwys Ham a Mwstard Seisnig, Ychen Rhost, Pupur Jalapeño, Sbeisys Dwyreiniol, a Pepperoni.
Bydd Llanllyr Water, cwmni a enillodd wobrau rhyngwladol am ei ddŵr potel, yn arddangos dŵr llonydd a phefriog mewn poteli gwydr 750ml a 330ml a chaniau 100% ailgylchadwy 330ml. Daw’r dŵr o dir organig ardystiedig ac mae’r cwmni’n cyflenwi llawer o brif fwytai seren Michelin a gwestai gorau’r byd.
Caiff y dŵr ei allforio i dros 26 o wledydd, ac mae gwobrau’r cwmni’n cynnwys: Gwobrau Cymru y Gwir Flas 2007, Dŵr Gorau Prydain (Cylchgrawn Imbibe), Allforiwr Diodydd y Flwyddyn Food from Britain UK ac Allforiwr Bwyd a Diod y Flwyddyn Cymru ac yn 2008 derbyniodd Wobr y Frenhines am Fasnach Ryngwladol.
Bydd allforwyr cig o Gymru yn bresennol gyda Hybu Cig Cymru pan mae’n hyrwyddo cig oen ansawdd uchel o Gymru yn Gulfood. Mae Hybu Cig Cymru yn ystyried bod Gulfood yn borth i farchnad a fedrai fod yn enfawr ar gyfer Cig Oen Cymreig yn y Dwyrain Canol. Ei nod yn y sioe fydd creu cyfleoedd masnachu newydd, gan sicrhau gwell enillion i gynhyrchwyr a phroseswyr nôl adref yng Nghymru.
Llwyddodd Hybu Cig Cymru i helpu i gyflenwi Cig Oen Cymreig i siopau, bwytai a gwestai yn Dubai a bydd ei stondin yn arddangos rhagoriaethau Cig Oen Cymreig ffres i chefs a phrynwyr o bob rhan o’r Dwyrain Canol. Dangosir amrediad llawn o doriadau Cig Oen Cymreig.
Daeth 45,000 o ymwelwyr masnach o 152 o wledydd i’r digwyddiad yn 2009 gydag ymwelwyr yn cynnwys cynrychiolwyr o rai o sefydliadau amlycaf y byd.
Caiff Dubai ei adnabod fel canolbwynt a phorth i farchnadoedd megis Qatar, Bahrain a Kuwait, gan gynnig potensial gwych i gwmnïau o Gymru. Yn hanesyddol, mae’r ardal wedi dibynnu ar fwydydd wedi’u mewnforio, gyda Dubai y trydydd ail-allforiwr mwyaf yn y byd gyda 72% o fewnforion yn cael eu hail-allforio i dros 160 o wledydd.
Er i’r dirywiad economaidd yn 2008/09 effeithio’n wael ar Dubai, mae’r economi yng ngweddill ardal y Gwlff yn parhau’n gryf, ffactor gadarnhaol i allforwyr o Gymru.
Mae dros 150,000 o alltudion o’r Deyrnas Unedig yn byw yn nhaleithiau’r Gwlff, gydag ychydig dros 100,000 ohonynt yn seiliedig yn Emiraethau Arabaidd Unedig, yn seiliedig yn bennaf yn Dubai. Yn ychwanegol mae bri cynyddol yr ardal fel cyrchfan twristiaeth safon uchel yn denu mwy na 700,000 o alltudion i’r ardal bob blwyddyn.
Mae cyfleoedd sylweddol pellach ar gyfer allforwyr bwyd a diod gan breswylwyr eraill y Dwyrain Canol sydd hefyd eisiau mwynhau cynnyrch bwyd a diod o’r Gorllewin. Yn 2008 tyfodd allforion bwyd a diod o’r Deyrnas Unedig - ac eithrio alcohol - i Dubai ei hunan gan 21.6% i £51.9m.
NODIADAU I’R GOLYGYDD
I gael manylion pellach am Gulfood 2010 ymwelwch â: www.gulfood.com.
I gael mwy o wybodaeth am gynnyrch bwyd a diod Cymru yn gyffredinol ewch i: www.cymruygwirflas.co.uk.
I gael mwy o fanylion am gwmnïau sy’n arddangos yn Gulfood, cysylltwch â:
Hybu Cig Cymru
Tŷ Rheidol
Parc Merlin
Aberystwyth
Ceredigion
SY23 3FF
Cyswllt: Alan Morris
Ffôn: 01970 625050
E-bost: amorris@hccmpw.org.uk
Gwefan: www.hccmpw.org.uk
Llanllyr Water Company
Talsarn
Llanbedr Pont Steffan
Ceredigion
SA48 8QB
Cyswllt: Patrick Gee
Ffôn: 01570 470 788
E-bost: patrick@llanllyrwater.com
Gwefan: www.llanllyrwater.com
Real Crisps
Unedau 17/18 Heol Willow
Stad Ddiwydiannol Pen-y-Fan
Crymlyn
Casnewydd
NP11 4 EG
Cyswllt: Robert Brown
Ffôn: 01495 241960
E-bost: real@tayto.com
Gwefan: www.realcrisps.com
Cwmni Halen Môn
Brynsiencyn
Llanfairpwllgwyngyll
Ynys Môn
LL61 6TQ
Cyswllt: Alison Lea-Wilson
Ffôn: 01248 430871
E-bost: alison@seasalt.co.uk
Gwefan: www.seasalt.co.uk
The Abergavenny Fine Food Co
Parc Castle Meadows
Y Fenni
Sir Fynwy
NP7 7RZ
Ffôn: 01873 850001
E-bost: enquiries@abergavenny.uk.com
Gwefan: www.abergavenny.uk.com
Sheila Coleman
Partner
Coleman Roberts Communications
01792 410994 / 07968 357474
www.colemanroberts.co.uk