Cynhyrchwyr Cymru yn Paratoi ar gyfer Hotelympia

Mae nifer o gynhyrchwyr llwyddiannus o Gymru yn paratoi i fynd i Lundain yn nes ymlaen y mis hwn (28 Chwefror - 4 Mawrth) ar gyfer Hotelympia, un o brif ddigwyddiadau masnach y Deyrnas Unedig.

Bydd y cwmnïau sy'n cyhwfan y faner dan faner Gwir Flas Llywodraeth Cynulliad Cymru yn cynnwys Real Crisps o Gasnewydd, Vin Sullivan Foods Cyf o Flaenafon, Trioni Cyf o Sir Benfro ac Otley Brewing o Bontypridd (gwybodaeth fanwl dan Nodiadau i'r Golygydd).

Bydd y digwyddiad pum diwrnod yn rhoi cyfle i gynhyrchwyr Cymru, rhai ohonynt yn enillwyr gwobrau Gwir Flas, i arddangos eu cynnyrch a datblygu perthynas gyda chwsmeriaid a phrynwyr presennol a newydd.

Esboniodd Wynfford James, Cyfarwyddwr Datblygu Bwyd a’r Farchnad Llywodraeth Cynulliad Cymru, “Bydd y digwyddiad hwn yn rhoi cyfleoedd busnes a rhwydweithio gwerthfawr iawn i bob cwmni.

“Rydym eisiau ateb yr her a manteisio ar y cyfleoedd i gynyddu busnes i gwmnïau bwyd a diod ardderchog Cymru a bydd y digwyddiad hwn yn ein helpu i gyflawni’r nod honno.”

Mae Hotelympia 2010 yn lle gwych i ymchwilio’r cynnyrch a gwasanaethau diweddaraf a mwyaf blaengar yn y busnes lletygarwch ac mae’n canolbwyntio ar yr holl sectorau yn y diwydiant lletygarwch. Rhannwyd y sioe yn chwe chategori, yn cynnwys Bwyd a Diod, Offer Arlwyo, Pen Bwrdd, Addurno a Dylunio, Ystafelloedd Ymolchi a Sbaon Gwestai, a Safleoedd a Chyfleusterau.

I gael mwy o wybodaeth ar Hotelympia, cysylltwch ag Esther Eckley, Rheolwr Cysylltiadau Cyhoeddus Hybu Bwyd Esther Eckley ar esther.eckley@cymru.gsi.gov.uk


Nodiadau i’r Golygydd

Y cwmnïau o Gymru fydd yn arddangos yn Hotelympia 2010 yw:

Mae Real Crisps sydd newydd ail-lansio’r brand gyda phecyn newydd sionc a chyfoes, yn ogystal â blasau a meintiau pecyn newydd, yn mynd ag ystod eang o greision a goginiwyd â llaw i Hotelympia. Dechreuodd y cwmni, sy’n eiddo grŵp Tayto, wneud creision a goginir â llaw yn ei safle gweithgynhyrchu yn Ne Cymru yn 1997. Gan ddefnyddio’r tatws gorau ac yn cyfuno blasau clasurol a chyfoes, mae creision y cwmni ar gael mewn pecynnau 35g, 50g a 150g.

Mae’r blasau yn amrywio o ffefrynnau traddodiadol megis Halen Môr a Phupur Du, Halen Môr a Finegr Brag, a blasau cyfoes yn cynnwys Ham a Mwstard Seisnig, Ychen Rhost, Pupur Jalapeno, Sbeis Dwyreiniol a Pepperoni.

Yn dathlu 50 mlynedd eleni, bydd cwmni gyflenwi bwydydd safon uchel i fwytai arbgenigol Vin Sullivan Food Cyf o Flaenafon yng Ngwent, yn lansio eu catalog Jiwbilî Aur newydd sbon yn y sioe, yn cynnwys llawer o gynnyrch bwyd safon uchel newydd a blaengar a syniadau fydd yn gwella unrhyw fwydlen. Bydd cigoedd ffres, bwyd môr, cawsiau ffermdy, charcuterie a chynnyrch nwy arbenigol ar gael gyda hyrwyddiadau arbennig a samplau blasu ar gael drwy gydol y sioe.

Bydd Trioni Cyf, a enillodd ddwy wobr efydd y Gwir Flas dros y blynyddoedd, yn lansio ei frandio newydd ar gyfer ei amrediad 250ml o flaslaeth organig Daioni. Mae blaslaeth organig Daioni ar gael mewn blasau mefus, siocled a banana a deuant mewn dau faint, 125ml a 250ml. Bydd y cwmni o Sir Benfro yn dangos ei laeth hanner-sgim oes hir Daioni sydd ar gael mewn pecynnau 125ml a 1 litr.

Bydd Otley Brewing Company o Bontypridd yn dangos cynnyrch newydd. Bydd y cwmni, a sefydlwyd yn 2005, yn ail-lansio Columbo 4%, a chwrw euraid, ac 06 Porter 6.6%, cwrw du hen ffasiwn.

Cânt eu dangos wrth ochr rhai o amrediad gwobrwyol presennol y cwmni o gwrw wedi’i dymheru mewn potel - 01,02, 08, Dark 0 ac 0 Garden. Mae’r cwmni’n anelu i ddod â gwedd fodern ffres i’w gwrw a denu cwsmeriaid newydd i gwrw go iawn. Enillodd yr amrediad lu o wobrau, yn fwyaf diweddar wobrau Gwir Flas am ei gwrw 01 ac 08 a’c yn fwyaf diweddar Wobr Efydd ar gyfer 08 yng Ngŵyl Genedlaethol Cwrw Gaeaf 2010.

 

The Real Crisp Company / Sirhowy Valley Foods Cyfyngedig
Unedau 17 & 18, Heol Willow
Stad Ddiwydiannol Pen-y-Fan
Crymlyn
Casnewydd
NP11 4EG
Ffôn: 01495 241960
E-bost: sales@realcrisps.com
Gwefan: www.realcrisps.com
Cyswllt: John Mudd

Vin Sullivan Foods Cyf
2 Stad Gilchrist Thomas
Blaenafon
Torfaen
NP4 9RL
Ffôn: 01495 792792
E-bost: sales@vin-sullivan.co.uk
Gwefan: www.vin-sulllivan.co.uk
Cyswllt: John Sullivan

Trioni Cyf
Ffosyficer
Abercych
Boncath
Sir Benfro
SA37 0EU
Ffôn: 01239 682572
E-bost: teleri@trioni.com
Gwefan: www.trioni.com
Cyswllt: Teleri Thomas

Otley Brewing Company
Uned 42
Cilfynydd
Pontypridd
CF37 4NX
01443 480555
nick@otleybrewing.co.uk
www.otleybrewing.co.uk
Cyswllt: Nick Otley

 
Sheila Coleman
Coleman Roberts Communications
01792 410994 / 07968 357474
www.colemanroberts.co.uk