Cacen Fêl Gydag Eisin Mascarpone A Lemon

Bara ac ati


Method:

  1. Irwch ddau dun sbwng 20 cm a'u blawdio. Hidlwch y pedair eitem gyntaf gyda'i gilydd. Hufennwch y menyn a'r siwgwr a churo'r wyau i mewn iddynt yn raddol. Ychwanegwch y blawd, y mêl, y llaeth enwyn a'r iogwrt, bob yn dipyn, yn eu tro.
  2. Rhannwch y gymysgedd rhwng y ddau dun a phobi'r cacennau ar 350°;F/ 180°C/marc nwy 4 am ryw 30 munud. Trowch y cacennau o'r tuniau a'u gadael i oeri.
  3. Cymysgwch y mascarpone â'r iogwrt, y croen a'r sudd lemon. Rhowch yr eisin rhwng dau hanner y gacen, gan gadw peth i'w haddurno. Taenwch siwgwr eisin drosti.

Ingredients

250g blawd plaen
11?2 llond llwy de powdwr codi
1?2 llond llwy de soda pobi
1 llond llwy de sbeis cymysg
100g menyn
100g siwgwr mân
2 ?y
150ml llaeth enwyn neu iogwrt naturiol
125g mêl clir
Eisin:
220g caws mascarpone
2-3 llond llwy fwrdd iogwrt naturiol
croen un lemon
2 lond llwy de sudd lemon